Y DU yn cymeradwyo defnydd o'r bilsen gyntaf i drin cleifion Covid-19

Mae'r cyffur gwrth-feirysol cyntaf i drin Covid-19 ar ffurf pilsen wedi cael ei gymeradwyo i gael ei ddefnyddio yn y DU.
Bydd Molnupiravir yn cael ei roi ddwywaith y dydd i bobl fregus sydd wedi cael prawf positif diweddar am Covid-19.
Yn ôl rheoleiddwyr meddyginiaeth y DU (MHRA), mae’r cyffur yn ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer pobl sydd yn wynebu risg uwch o ddal y feirws ac sydd â symtomau ysgafn i gymhedrol.
Dywedodd Ysgrifenydd Iechyd Llywodraeth y DU, Sajid Javid ei bod yn “ddiwrnod hanesyddol.”
Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau digon o gyflenwad er mwyn trin 480,000 o bobl, gyda’r archeb yn cyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn, yn ôl The Independent.
Darllenwch y stori’n llawn yma.