Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0 – 1 QPR
Croesawodd tîm pêl-droed Dinas Caerdydd dîm Queens Park Rangers i’r brifddinas nos Fercher yn ngêm gartref gyntaf y rheolwr dros dro, Steve Morison.
Ar ôl i’r Adar Gleision ddod yn gyfartal gyda sgor o 3-3 yn erbyn Stoke ddydd Sadwrn, roedd pethau’n edrych yn well i’r clwb ar ôl tymor heriol dan arweiniad y cyn-reolwr, Mick McCarthy.
Ond, dechrau digon siomedig oedd i Gaerdydd gyda gôl yn unig yn yr hanner cyntaf – a honno i Andre Gray o dîm y gwrthwynebwyr, QPR ar ôl 37 o funudau.
Daeth dau gerdyn melyn i QPR yn yr ail hanner, ond wnaeth hynny ddim rhoi mantais i'r Adar Gleision.
Gyda phum munud ychwanegol ar y cloc, aeth ymdrechion olaf Caerdydd yn ofer gyda dwy ymgais gan Ryan Giles a Marlon Pack i gyrraedd cefn y rhwyd yn methu.
Canlyniad siomedig i Gaerdydd gyda sgôr terfynol y gêm yn gorffen yn 0-1 i Queens Park Rangers.
Llun: Asiantaeth Huw Evans