Manylion aelodau'r blaid Lafur wedi eu heffeithio gan 'ddigwyddiad seibr'

The Independent 03/11/2021
Keir Starmer Llun- Rwendland

Mae'r Blaid Lafur wedi cadarnhau bod manylion ei haelodau a'i chefnogwyr wedi eu heffeithio gan "ddigwyddiad seibr" o fewn cwmni allanol sy'n gofalu am ei data.

Dywedodd y Blaid Lafur, y brif blaid yng Nghymru, ei bod yn ymwybodol bod "nifer sylweddol o ddata'r blaid" wedi ei effeithio gan y digwyddiad ar 29 Hydref.

Mae'r Asiantaeth Trosedd Gwladol (NCA), Canolfan Diogelwch Seibr Gwladol (NCSC) a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn ymwybodol, yn ôl The Independent.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur fod y data sydd wedi ei effeithio "yn cynnwys gwybodaeth a gafodd ei ddarparu i'w haelodau, cefnogwyr cofrestredig a chysylltiedig, ac unigolion eraill sydd wedi darparu eu gwybodaeth i'r blaid".

Darllenwch fwy ar y stori yma.

Llun: Rwendland

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.