Newyddion S4C

Tynnu portread o Syr Thomas Picton i lawr yn hollti barn

Newyddion S4C 03/11/2021

Tynnu portread o Syr Thomas Picton i lawr yn hollti barn

Mae Amgueddfa Cymru wedi disgrifio tynnu portread o Syr Thomas Picton i lawr o oriel "Wynebau Cymru" fel trobwynt i'r amgueddfa.

Roedd yr Is-gadfridog a oedd yn cael ei ystyried yn arwr ym mrwydr Waterloo hefyd yn adnabyddus am ei greulondeb i gaethweision tra'n llywodraethwr ar Ynys Trinidad.

Ond nid pawb sydd wedi croesawu'r penderfyniad i dynnu'r portread i lawr, gan gynnwys y darlledwr a newyddiadurwr Huw Edwards. 

Mewn ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Amgueddfa Cymru ar eu cyfryngau cymdeithasol y bydd y portread yn dychwelyd i waliau'r amgueddfa ond mewn modd sy'n darparu mwy o gyd-destun am ei fywyd.

Mae'r portread gan yr artist Syr Martin Shee wedi bod yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru ers ei sefydlu ym 1907 ac mae wedi cael ei arddangos bron yn barhaus ers dros 100 mlynedd.

Fe wnaed y penderfyniad i dynnu’r portread i lawr fel rhan o brosiect "Ail-fframio Picton" ddaeth yn sgil protestiadau gwrth hiliaeth "Mae bywydau du o bwys" llynedd.

Image
Kath Davies
Mae Kath Davies yn Gyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn Amgueddfa Cymru.

Yn ôl Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru: "Mae hwn yn drobwynt i'r amgueddfa wrth gofio taw amgueddfa genedlaethol y'n ni. Dylen ni fod yn cynrychioli pawb yng Nghymru.

"Ry' ni wedi bod yn gweithio gyda gwahanol ffrindiau a chymdeithasau i drafod dyfodol Picton... i drafod sut y dylen ni arddangos e yn y dyfodol, os y gwnawn ni arddangos e yn y dyfodol.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau gyda'r drafodaeth. Mae hwn yn drafodaeth cymhleth ac mae angen i ni barhau i wrando ar ein gilydd a dwi yn meddwl byddwn ni'n trafod Picton ymhellach ond efallai'n bwysicach yn trafod beth y'n ni'n casglu yn yr amgueddfa, pwy ni'n cynrychioli, pam?

"Ble mae'r bylchau yn y casgliadau a sut y ni'n gallu gwir gynrychioli pawb yng Nghymru o fewn ein casgliadau ni?"

Mae portread o’r enw ‘William Lloyd, Gwrychwr a Thorrwr Ffosydd’ wedi cymryd lle portread Picton. Cafodd hwn ei baentio gan yr artist o’r Iseldiroedd, Albert Houthuesen dreuliodd gyfnod yng nghymuned lofaol Trelogan yn Sir y Fflint yn y 1930au.  

"Mae e'n weithiwr cyffredin, bilwg yn ei law a falle ei fod e'n cynrychioli ni fel Cymry mewn ffordd fydde Picton byth yn gallu neud," meddai Kath Davies.

'Dathlu'r bobl sy'n cynrychioli'

Mae'r dewis wedi ei groesawu gan Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr Panel Cynghori Is-Sahara: “Wrth i ni geisio creu Cymru sy’n gynhwysol a hafal, yn canolbwyntio ar gyd-dynnu cymunedol, ac yn gwerthfawrogi gwahanol ddiwylliannau ein gwlad, mae angen i ni ddathlu’r bobl sy’n cynrychioli ein cymdeithas.

"Dylai’r bobl hyn gael eu gweld yn oriel Wynebau Cymru”.

Er iddo gael ei glodfori fel arwr rhyfel roedd gan Syr Thomas Picton enw drwg am greulondeb yn ystod ei oes. Bu'n rhaid iddo sefyll ei brawf ym Mhrydain ar ôl cael ei gyhuddo o arteithio Luisa Calderon, merch bedair ar ddeg oed oedd wedi ei chyhuddo o ddwyn.

Fe'i cafwyd yn euog ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi yn ddiweddarach.

Image
Fadhili Maghiya
Fe ddylai'r arddangosfa ddathlu unigolion sy'n "cynrychioli cymdeithas" yn ôl Fadhili Maghiya.

Ond nid pawb sydd wedi croesawu'r penderfyniad. 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y newyddiadurwr a darlledwr Huw Edwards nad yw'n "gyfforddus" gyda'r penderfyniad.

Dyw'r hanesydd Dr Marion Loeffler chwaith ddim am weld y portread yn cael ei roi o'r golwg mewn stordy.

"Dwi'n gweld hyn fel cyfle i ail ddehongli ystafell wynebau Cymru i ddangos cysylltiadau byd eang... ond hefyd i ddangos beth oedd rôl y dynion a'r menywod mawr yma yn y Gymru ymerodrol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

"Beth sy'n bwysig hefyd yw bod ni ddim yn sôn am y da a'r drwg oherwydd dyna mae cenedlaethau o'n blaenau wedi 'neud. Mae angen arddangos hanes yn ei holl gymhlethdod."

Yn ôl yr amgueddfa dechrau'r broses o werthuso casgliadau yw hyn.

Mewn ymateb i sylwadau'r newyddiadurwr Huw Edwards, fe ddywedodd yr amgueddfa y bydd y portread yn "mynd yn ôl ar waliau'r amgueddfa gyda rhagor o wybodaeth am fywyd Picton - y da a'r drwg".

Mewn ymateb cynharach, dywedodd Kath Davies o'r amgueddfa:  "Mae'r ymateb i beth ddigwyddod blwyddyn diwetha gyda Black Lives Matter wedi cyflymu'r agenda ond ry' ni wrthi nawr yn edrych ar gasgliadau yn eu cyfanrwydd achos mae problemau ym mhob ardal o'r casgliad," ychwanegodd Kath Davies.

"Ry ni'n edrych ar lle mae'r bylchau, pwy ni'n cynrychioli a sut mae cynrychioli pobl yn y ffordd bydden nhw ishe cael eu cynrychioli."

Mae'r amgueddfa wedi comisiynu artistiaid sydd a'u gwreiddiau yn Trinidad i ymateb i'r portread o Syr Thomas Picton.

Maen nhw nawr yn ystyried sut y byddan nhw'n arddangos y gwaith hwnnw ac a fydd portread Syr Thomas Picton yn rhan ohono. 

Llun: Amgueddfa Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.