Alun Wyn Jones allan o garfan Cymru gydag anaf i'w ysgwydd

02/11/2021
Alun Wyn Jones

Ni fydd capten Cymru Alun Wyn Jones yn chwarae yng ngweddill gemau Cymru yng Nghyfres yr Hydref ar ôl iddo ddioddef anaf.

Cafodd Jones anaf i'w ysgwydd wrth i Gymru herio Seland Newydd yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn. 

Fe fydd y chwaraewr rheng-ôl Ross Moriarty hefyd allan o'r garfan gydag anaf i'w ysgwydd.

Fe fydd angen llawdriniaeth ar y ddau chwaraewr ac mae disgwyl iddynt fod allan o'r garfan am "nifer o fisoedd" i wella o'u hanafiadau.

Ar ben yr ergyd yma i dîm Wayne Pivac, cadarnhawyd bod Taulupe Faletau hefyd allan o'r garfan wedi iddo gael anaf i'w bigwrn wrth hyfforddi gyda Chaerfaddon. 

Mae Shane Lewis-Hughes a Rhys Davies wedi'u hychwanegu at y garfan yn eu lle. 

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.