Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad merch 16 oed

Mae dyn wedi pledio'n euog o ladd merch 16 oed mewn pentref yn Rhondda Cynon Taf fis Mawrth.
Yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun, fe blediodd Chun Xu, 31, yn euog o ddynladdiad.
Mae'n wynebu cyhuddiad o lofruddio Wenjing Lin yn siop tecawê Blue Sky yn Ynyswen, Treorci ddydd Gwener 5 Mawrth.
Mae hefyd wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio a chlwyfo Yongquan Jiang, 38, yn bwrpasol.
Gwadodd Mr Xu y tri cyhuddiad ond cyfaddefodd i ddynladdiad Ms Lin a chlwyfo Mr Jiang yn anghyfreithlon.
Darllenwch y stori llawn yma.