Apêl am ddelweddau o grŵp o feicwyr modur mewn dillad Siôn Corn ar ôl gwrthdrawiad difrifol

Ffordd unffordd Wrecsam

Mae'r heddlu yn apelio am ddelweddau o grŵp o feicwyr modur mewn dillad Siôn Corn ar ôl gwrthdrawiad difrifol ddydd Sul. 

Fe gafodd dyn ei gludo i’r ysbyty ar ôl iddo ddioddef anafiadau difrifol wedi'r gwrthdrawiad ar hyd ffordd gul rhwng Glyn Ceirog, Llangollen a Fron, Wrecsam am 14.15 y diwrnod hwnnw. 

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beiciau modur oddi ar y ffordd (‘off-road’), meddai’r llu. 

Roedd y gyrwyr yn teithio fel rhan o grŵp ehangach oedd wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd Siôn Corn.

Y gred yw bod un o’r gyrwyr wedi ffoi yn dilyn y gwrthdrawiad. 

Mae’r llu bellach yn apelio am lygad dystion neu unrhyw un all fod o gymorth i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 25001040253.

Dywedodd y Rhingyll Danielle Ashley, o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Rwy’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sy’n gwybod pwy yw’r unigolion dan sylw i gysylltu. 

“Rwyf hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â delweddau o grŵp mawr o feicwyr modur oddi ar y ffordd oedd yn gwisgo gwisgoedd Siôn Corn, a oedd yn teithio yn ardal Llangollen a Wrecsam, i gysylltu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.