Dyn ifanc wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot
Mae dyn ifanc wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhort Talbot.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Mazda MX-5 gwyrdd a Ford Fiesta coch, ar y B4287 yn Efail Fach, Pontrhydyfen am oddeutu 7:30 nos Sadwrn.
Mae dyn 22 oed oedd yn teithio mewn Mazda gwyrdd wedi marw.
Mae gyrrwr y car, dyn 27 oed wedi dioddef anafiadau difrifol.
Cafodd gyrrwr y Fiesta ei anafu hefyd a'i gludo i'r ysbyty.
Roedd y ffordd ar gau am nifer o oriau er mwyn i ymchwiliadau gael eu cynnal yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu’r De yn apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam, neu oedd wedi bod yn teithio ar hyd y ffordd ac wedi sylwi ar y cerbyd yn gyrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu trwy ddefnyddio’r cyfeirnod: 380974.