
Tywydd gwyllt Cymru yn gallu 'helpu newid hinsawdd'

Tywydd gwyllt Cymru yn gallu 'helpu newid hinsawdd'
Mae pencampwr syrffio o Abersoch yn ceisio codi ymwybyddiaeth o bŵer tywydd er mwyn creu ynni adnewyddadwy i geisio datrys newid hinsawdd yn y wlad.
Mae Llywelyn Williams yn syrffiwr addasol, sy'n golygu padlo allan i ddal y don cyn syrffio nôl tuag at y lan. Gall syrffio addasol ddigwydd lle bynnag y mae tonnau addas.
Mae Mr Williams yn awyddus i rannu sut mae pŵer gwynt Cymru wedi siapio ei yrfa fel syrffiwr, ac mae'n annog y genedl i ymuno â'r frwydr i wella’r amgylchedd.
Dywedodd Mr Williams: "Rydw i wedi syrffio o Bali i California ond mae’r tonnau oddi ar arfordir Cymru bob amser yn parhau i fod yn le arbennig i mi. Nid yn unig bod y gwynt yng Nghymru yn berffaith ar gyfer syrffio, ond mae hefyd yn ffynhonnell wych o ynni adnewyddadwy."
“Fe ddylen ni fod yn harneisio pŵer tywydd rhyfeddol yng Nghymru.”
Fel rhan o’r ymgyrch i frwydro newid hinsawdd, mae Mr Williams yn annog pobl i gael ‘smart meter’ er mwyn helpu’r cyhoedd deall mwy am ei defnydd o egni ac am yr ynni adnewyddadwy sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig.

Mae gan y DU bron 40 o ffermydd gwynt ar y môr a 2,500 o ffermydd gwynt ar y tir ledled y wlad sy’n cynhyrchu 25GW o drydan y flwyddyn.
Ond mae Mr Williams yn rhybuddio “nid yw pŵer o ffermydd gwynt yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol oherwydd nad yw ein seilwaith ynni mor ddeallus ag y dylai fod.”
Ynni o ffermydd gwynt yw’r dewis mwyaf cost-effeithiol ar gyfer trydan newydd yn y DU, ac mae Mr Williams yn awyddus i “annog pawb i gael ‘smart meter’” er mwyn i bobl fonitro a chael gwell dealltwriaeth o’i defnydd ac i arbed arian.
“Roedd e’n synnu fi faint o bres ma' modd safio wrth roi pethau off ar standby.”
Esboniodd Fflur Lawton, o Smart Energy GB Wales: "Rydyn ni wedi ymuno â Llywelyn i ledaenu'r neges bod cael ‘smart meter’ yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd trwy ganiatáu i ni ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy o'n tywydd pwerus."
Cynhyrchwyd bron i chwarter trydan y DU gan dyrbinau gwynt yn 2020, ond mae llai na thraean (29%) o drigolion Cymru yn ymwybodol o faint o ynni sy'n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy ac mai'r gwynt yw’r ffynhonnell fwyaf o ynni adnewyddadwy.
“Dyw 94% o bobl yng Nghymru ddim yn ymwybodol y gallai ‘smart meter’ gynyddu defnydd ein gwlad o ynni adnewyddadwy,” meddai Fflur.
“Mae system ynni craffach a all wneud gwell defnydd o ynni a gynhyrchir gan ein gwynt a’n haul yn rhan hanfodol o ymrwymiad Prydain i gyrraedd allyriadau carbon Net Sero."