Y Brenin yn teithio i'r Fatican wrth i'r pwysau gynyddu ar ei frawd

Y Brenin Charles a'i frawd Andrew

Bydd y Brenin Charles a'r Frenhines Camilla yn cwrdd â'r Pab ddydd Mercher, wrth i'r pwysau gynyddu ar y Tywysog Andrew wedi i hunangofiant Virginia Giuffre gael ei gyhoeddi.

Mae'r daith ddeuddydd yn cael ei hystyried yn un hanesyddol, ac yn ddathliad o jiwbilî y Pab sy'n cael ei gynnal bob 25 mlynedd.

Roedd y Brenin a'r Frenhines i fod i ymweld â'r Fatican fis Ebrill, ond cafodd y daith swyddogol ei gohirio oherwydd cyflwr iechyd y Pab Ffransis ar y pryd. 

Ond fe wnaeth y Brenin a'r Frenhines gyfarfod â'r Pab Ffransis yn breifat, cyn ei farwolaeth yn ddiweddarach y mis hwnnw. 

Hwn fydd y tro cyntaf i'r cwpl brenhinol gyfarfod â'i olynydd, y Pab Leo ers iddo gael ei ethol fis Mai.  

Ond mae'r straeon diweddaraf am frawd y Brenin, y Tywysog Andrew yn bwrw cysgod dros y daith, gyda'r honiadau'n parhau am ei berthynas â Virginia Giuffre.

Yn ei hunangofiant, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, nododd Virginia Giuffre ei bod yn poeni y byddai yn "marw fel caethwas rhyw" yn nwylo'r pedoffeil Jeffrey Epstein a'i gylch o ffrindiau.

Daeth Virginia Giuffre â'i bywyd i ben chwe mis yn ôl.

Yn yr hunangofiant mae'n dweud iddi gael rhyw gyda'r Tywysog Andrew deirgwaith, gan gynnwys unwaith gydag Epstein ac wyth o ferched ifanc eraill.

Fe ddaeth y Tywysog Andrew i setliad ariannol gyda Ms Giuffre yn 2022. Mae e wastad wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le.

Mae Ms Giuffre yn cyfeirio at adegau y cafodd ryw yn honedig gyda'r Tywysog Andrew ond hefyd yn rhoi manylion eraill am y masnachu rhywiol oedd yn digwydd o dan law Epstein.

"Ces i fy nefnyddio a fy ngwawdio yn gyson, ac mewn rhai achosion fy nhagu, fy mwrw ac roeddwn yn waedlyd. Roeddwn i yn meddwl efallai y bydden ni yn marw fel caethwas rhyw," meddai Ms Giuffre yn yr hunangofiant.

Ddydd Gwener fe ddywedodd y Tywysog Andrew y byddai yn ildio ei holl deitlau, gan gynnwys ei deitl brenhinol mwyaf adnabyddus, Dug Efrog.

'Llond bol'

Ond mae'r hunangofiant yn rhoi mwy o bwysau ar y Tywysog ac ar y Teulu Brenhinol.

Nos Fawrth, roedd pwysau ar y Tywysog Andrew i ildio ei blasty 30 ystafell, ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei fod wedi talu swm bychan iawn o rent yno yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf.  

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Robert Jenrick mae'n bryd i'r Tywysog Andrew "fynd i ffwrdd i fyw mewn rhywle preifat," gan fod y cyhoedd "wedi cael llond bol ohono."

Gallai pwyllgorau'r Senedd yn San Steffan hefyd fwrw golwg ar y modd y mae Ystâd y Goron wedi ymdrin â chartref y Tywysog Andrew - y Royal Lodge ym mharc Windsor.  

Mae'r grŵp ymgyrchu Republic hefyd yn mynnu bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i'r cyswllt brenhinol â'r pedoffeil Jeffrey Epstein a'r ymdrechion honedig i warchod Andrew.  

Ddydd Sadwrn fe ddywedodd y Mail on Sunday bod y Tywysog Andrew wedi gofyn i Heddlu’r Met ymchwilio i Virginia Giuffre cyn i'r papur newydd gyhoeddi llun ohoni gyda'r Tywysog.

Mae teulu Ms Giuffre wedi galw ar y Brenin Charles i gymryd y teitl Tywysog oddi arno.

Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts hefyd wedi dweud y byddai'n cefnogi unrhyw ddeddfwriaeth a fyddai'n golygu fod y Tywysog Andrew yn colli ei deitlau.

"Byddaf yn cefnogi unrhyw ymdrechion i sicrhau fod y Teulu Brenhinol yn gorfod glynu at yr un safonau a chyfreithiau â phawb arall. Mae'n rhaid i'r Senedd gael y grym i dynnu breintiau oddi ar y rhai sy'n camddefnyddio eu sefyllfa," meddai.  

 

  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.