Chwech wedi eu harestio wedi torf dreisgar yn Nulyn
Mae chwech o bobl wedi eu harestio ar ôl i dorf daflu tanau gwyllt a brics at heddlu yn Nulyn.
Fe ddigwyddodd y trais y tu allan i westy sydd yn cael ei ddefnyddio i gartrefu ceiswyr lloches nos Fawrth.
Cafodd cerbyd heddlu ei roi ar dân ac mae un heddwas wedi ei anafu.
Yn ôl yr heddlu roedd rhai aelodau o'r dorf yn cario ffyrch garddio.
Fe gafodd hofrennydd y Garda hefyd ei thargedu gyda laserau.
Roedd yna hefyd ymgais i yrru ceffylau gyda throl ysgafn at linell yr heddlu.
Fe lwyddodd y Garda i atal y dorf rhag mynd mewn i'r gwesty. Roedd llawer o'r rhai oedd yn y dorf yn gwisgo gorchudd dros eu hwynebau.
Dywedodd y Comisiynydd Garda, Justin Kelly: "Doedd hyn yn amlwg ddim yn brotest heddychlon. Yr unig ffordd i ddisgrifio'r gweithredu ddigwyddodd heno yw ymddygiad gan thugs. Roedd hyn yn griw o bobl oedd gyda'r bwriad o achosi trais yn erbyn Gardai."
Ychwanegodd y byddan nhw nawr yn gwneud ymholiadau er mwyn darganfod pwy oedd y rhai wnaeth droseddu ac yn dwyn nhw i gyfrif.
Llun: Niall Carson/PA Wire