Dim 'gwanhau' ymchwiliad i gangiau sydd yn meithrin plant medd Mahmood
Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi dweud na fydd yr ymchwiliad i gangiau sydd yn meithrin perthynas amhriodol a phlant yn cael ei "wanhau".
Daw sylwadau Shabana Mahmood ar ôl i dair sydd wedi goroesi'r camdrin ymddiswyddo o'r panel goruchwylio'r wythnos yma.
Fe wnaethon nhw ymddiswyddo am eu bod yn pryderu y gallai'r ymchwiliad fod yn ehangach na dim ond y gangiau. Maen nhw hefyd yn poeni ynglŷn â phwy fydd yn cadeirio'r panel.
Does yna ddim cadeirydd wedi ei benodi eto.
Ond mae Ms Mahmood wedi dweud wrth The Times y bydd y penodiad yn digwydd cyn bo hir a bod hi'n bwysig bod y llywodraeth yn cael y person cywir.
Ym mis Mehefin fe gyhoeddodd y Prif Weinidog, Keir Starmer, y byddai yna ymchwiliad cenedlaethol yn digwydd i gangiau sydd yn meithrin perthynas amhriodol a phlant yng Nghymru a Lloegr.
Mae panel o bobl sydd wedi goroesi camdriniaeth wedi ei sefydlu i oruchwylio'r broses.
Yn ei llythyr ymddiswyddo fe ddywedodd 'Elizabeth', nid ei henw iawn, bod y broses yn teimlo fel bod yna "gelu'r gwir" yn digwydd a bod "yr awyrgylch yn wenwynig ar gyfer goroeswyr".
Mae goroeswr arall, Ellie Reynolds, wedi awgrymu y byddai yna wrthdaro buddiannau os bydd unigolion sydd yn rhan o'r sefydliad yn cael eu dewis fel y cadeirydd.
Ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y rôl mae Annie Hudson, cyn weithiwr cymdeithasol a Jim Gamble, sydd yn gyn ddirprwy brif gwnstabl.
Dywedodd Ms Reynolds wrth BBC Women's Hour: "Fe ddylai fod wedi bod yn farnwr. Fe ddylai fod wedi bod yn rhywun sydd yn hollol ddiduedd a heb fod a rhagfarn."
Mae Ms Mahmood wedi dweud wrth The Times y bydd y "drws wastad ar agor" os yw'r goroeswyr eisiau ail ymuno gyda'r panel.
"Ond hyd yn oed os nad ydyn nhw yn gwneud, mae'n ddyledus i fi ac i'r wlad i ateb rhai o'r pryderon maen nhw wedi codi."
Dywedodd y bydd yr ymchwiliad yn edrych ar "ethnigrwydd a chrefydd y troseddwyr".
Ychwanegodd ei bod yn deall y rhwystredigaeth nad yw'r ymchwiliad wedi dechrau eto a'i bod yn teimlo'r rhwystredigaeth hynny ei hun.
Llun: Tŷ'r Cyffredin/ PA