Dyn ag awtistiaeth oedd yn gwirfoddoli yn Waitrose 'ddim yn cael gweithio yno'
Mae dyn sy'n byw ag awtistiaeth ac a oedd yn gweithio fel gwirfoddolwr am dros bedair blynedd mewn siop Waitrose ym Manceinion wedi cael gwybod nad yw'n gallu cael swydd barhaol yno.
Roedd Tom Boyd, 27, wedi bod yn gwneud profiad gwaith yn y siop am ddau fore'r wythnos.
Dywedodd ei fam, Frances Boyd, ei fod wedi rhoi mwy na 600 awr o'i amser ei hun "yn bennaf gan ei fod eisiau y teimlad o berthyn, cyfrannu a gwneud gwahaniaeth".
Ond pan ofynnwyd a fyddai Tom yn gallu cael tâl am wneud ychydig oriau o waith, dywedodd ei fam ei bod wedi ei "harswydo" gan ymateb "oeraidd" Waitrose.
Yn ôl Ms Boyd, dywedodd Waitrose na fyddai Tom yn cael cynnig swydd â thâl yn y siop oherwydd "nad oedd yn gallu gwneud y swydd lawn".
'Haeddu gwell'
Dywedodd llefarydd ar ran Waitrose eu bod yn "gweithio'n galed i fod yn gyflogwr cynhwysol" ac yn ymchwilio i'r achos fel "blaenoriaeth".
Ychwanegodd Ms Boyd: "Roedd yn haeddu gwell.
"Roedd yn haeddu caredigrwydd, parch a'r cyfle i'w holl waith caled olygu rhywbeth.
"Ni ddylai unrhyw un deimlo nad yw eu cyfraniad nhw o bwys, yn enwedig rhywun sydd wedi rhoi cymaint o'i hun am gymaint o amser."
Nid oes gan wirfoddolwyr yr un hawliau â gweithiwr yn ôl y llywodraeth, ond mae yna ddisgwyliadau ar gyfer y rhai sy'n ymgymryd â hyfforddiant galwedigaethol.
Mae'r canllawiau yn nodi y dylai'r rhai sy'n gwirfoddoli fel arfer dderbyn cytundeb gwirfoddolwr sy'n gosod y lefel o oruchwyliaeth a'r gefnogaeth y byddan nhw yn eu derbyn.
Ond nid yw'r cytundeb gwirfoddolwr yma yn orfodol, ac nid ydyn nhw yn rhan o gytundeb.