Carcharu menyw am gynnau tân yn fwriadol yn McDonalds
Mae menyw o Abertawe wedi ei charcharu am gynnau tân yn fwriadol mewn bwyty McDonalds yn y ddinas.
Cafodd Leah Hocking, 39 oed ei dedfrydu i chwe mis dan glo ar ôl cynnau'r tân yn y bwyty yng nghanol dinas Abertawe.
Fe wnaeth hi gerdded mewn i McDonalds cyn cynnau'r tân ar un o'r byrddau ar Mawrth 4 eleni.
Hefyd roedd hi wedi dwyn ffôn symudol gan berson arall yn y bwyty McDonalds, cyn dechrau cicio'r heddlu wrth iddyn nhw geisio ei harestio.
Plediodd yn euog i gyhuddiadau o losgi bwriadol, lladrad ac ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys.
Yn ogystal roedd Hocking wedi pledio'n euog i achosi difrod troseddol gwerth llai na £5,000 ar ôl cyfaddef i ddifrodi drws siop goffi yng nghanol y ddinas ar yr un diwrnod.
Dywedodd y cwnstabl Abbi Crocker o Heddlu De Cymru"nad oes lle i ymddygiad gwrthgymdeithasol ar strydoedd Abertawe".
“Roedd ymddygiad Leah Hocking yn ddifeddwl ac nid oedd hi’n poeni am achosi niwed iddi hi ei hun nac i eraill," meddai.
“Nid yw ymddygiad anghyfrifol a gwrthgymdeithasol yn cael ei dderbyn o gwbl ar strydoedd y ddinas.
“Mae pobl fel Hocking yn gwneud i bobl ofni dod i ganol y ddinas oherwydd pryder am gael eu targedu heb unrhyw reswm amlwg. Mae hi’n haeddu ei chyfnod yn y carchar.”