Galw am fwy o arian i ddiogelu tommeni glo i osgoi trychineb Aberfan arall

Ann Davies yn galw am fwy o arian i ddiogelu tomenni glo

Mae'n rhaid ariannu diogelwch ar gyfer tomenni glo yn llawn er mwyn osgoi trychineb arall fel Aberfan, meddai AS Plaid Cymru.

Yn 1966 fe wnaeth tomen lo lithro i lawr mynydd a chladdu Ysgol Gynradd Pantglas yn Aberfan ger Merthyr Tudful, gan ladd 144 o bobl.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi £118 miliwn dros dair blynedd ar gyfer diogelwch tomenni glo yng Nghymru. 

Ond mae disgwyl i Ann Davies, AS Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, alw am fwy o arian mewn dadl yn San Steffan ddydd Mercher.

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn flaenorol y byddai angen £600 miliwn i sicrhau diogelwch tomenni glo Cymru. Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn mynnu mai dim ond swm cychwynnol yw'r £118 miliwn dros dair blynedd.

Bydd Ms Davies yn annog Llywodraeth y DU i "weithredu nawr, nid pan fydd y storm nesaf yn taro, nid pan fydd y domen nesaf yn llithro".

Yn ei haraith yn San Steffan, bydd yn dweud: "Mae dadl heddiw yn digwydd ddiwrnod ar ôl 59fed pen-blwydd trychineb Aberfan, a oedd yn cynnwys cwymp tomen rwbel pwll glo yn 1966, gan ladd 28 o oedolion a 116 o blant, a chladdu Ysgol Gynradd Pantglas.

"Fe wnaeth y trychineb yma arwain at ddod â Deddf Mwyngloddiau a Chwareli i rym, a daeth i rym o ganlyniad uniongyrchol i Aberfan ac fe aeth ymlaen i wella sefydlogrwydd a diogelwch ar gyfer tomenni glo.

"Fodd bynnag, ni aeth yn ddigon pell. Dylai hwn fod wedi bod yn foment i fynd i’r afael â gwaddol peryglus pob tomenni glo unwaith ac am byth, ond mae’r gwaith yn parhau i fod heb ei orffen."

'Mater brys'

Ychwanegodd bod stormydd wedi achosi rhagor o lithriadau fel digwyddodd uwchben Pendyrus yn 2020 a Cwmtyleri yn 2024.

"Ni ddylai unrhyw deulu fynd i’r gwely yn ofni’r llethr uwch eu pennau – ac ni ddylai unrhyw gymuned dalu’r bil am esgeulustod llywodraethau’r gorffennol.

"Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio ers tro nad yw diogelwch ein tomenni glo yn fater ar gyfer fory, mae’n fater y mae angen mynd i’r afael ag ef ar frys."

Bydd hi’n mynd ymlaen i ddweud bod angen i'r llywodraeth "ailystyried ei dull o ddiogelu tomenni glo yng Nghymru".

Mewn ymateb i dirlithriad Pendyrus, fe wnaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sefydlu Tasglu Diogelwch Tomenni Glo ar y cyd i asesu statws uniongyrchol tomenni glo segur yng Nghymru.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.