Brawd Ricky Hatton wastad wedi 'poeni lot' amdano

Ricky Hatton

Mae brawd y cyn- focsiwr Ricky Hatton wedi dweud ei fod wastad wedi poeni amdano ond nad oedd erioed wedi dychmygu y byddai yn cymryd ei fywyd ei hun.

Wrth siarad am y tro cyntaf gyda ITV dywedodd Matthew Hatton bod y farwolaeth wedi bod yn "sioc go iawn" i'r teulu.

Ond roedd wedi bod yn poeni amdano ers amser.

"O'n i yn siarad gyda fy mhartner trwy'r amser (amdano) ac mi oedden ni yn poeni lot am Richard, yn amlwg am ei fod o yn gwneud lot o gyfweliadau a phethau fel na. Fe fydden ni yn gwrando ond o'n i byth wedi fy argyhoeddi gyda'r hyn oedd o'n dweud," meddai Matthew. 

Dywedodd fod Ricky, oedd yn gyn-bencampwr bocsio’r byd, wedi cael problemau iechyd meddwl ers iddo roi'r gorau i focsio ond mai eleni oedd y "gorau" yr oedd wedi bod ers amser hir.

Er hynny roedd o'n poeni amdano meddai am nad oedd hi'n ymddangos fod ganddo "weledigaeth" ar gyfer y dyfodol.

'Breuddwyd wael' 

Mae'n dweud nad ydy o wedi prosesu yn iawn yr hyn sydd wedi digwydd.

"Mi oedd o'n teimlo fel breuddwyd wael. Ydy o wedi fy nharo fi yn llawn eto? Dwi ddim yn gwybod, mae'n siŵr ddim."

Yn ystod y cyfweliad dywedodd nad oedd wedi Ricky wedi cysylltu ag o cyn y farwolaeth ond ei fod wedi meddwl bod hynny am ei fod yn brysur.

Ond mae'n gysur meddai bod ei frawd oedd yn 46 oed wedi bod mewn cyswllt cyson gyda phobl broffesiynol.

Fe wnaeth cwest i farwolaeth Ricky Hatton ddod i'r casgliad ei fod wedi crogi ei hun.

Mae ei deulu wedi sefydlu elusen yn ei enw er mwyn ceisio helpu eraill. 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.