COP26: Cyfyngu'r cynnydd yn y tymheredd i 1.5C yn 'gyraeddadwy'

Ar drothwy cynhadledd COP26, mae gwyddonwyr hinsawdd wedi rhybuddio gwleidyddion fod cyflwyno uchafswm o 1.5C i'r cynnydd yn y tymheredd yn allweddol.
Fe fydd arweinwyr gwledydd ar draws y byd yn cyfarfod yn Rhufain a Glasgow dros y pedwar diwrnod nesaf i gytuno ar ffordd ymlaen.
Bwriad yr arweinwyr yw sicrhau nad yw'r tymheredd byd-eang yn codi mwy na 1.5C yn uwch na'r lefelau yr oedden nhw cyn yr oes ddiwydiannol.
1.5C oedd yr isaf o ddau uchafswm a gafodd eu cytuno fel rhan o gytundeb hinsawdd Paris 2015, yn ôl The Guardian.
Ond mae rhai gwledydd yn fwy awyddus i gyflawni targedau sero net erbyn 2050, gan nad yw'r targed hwnnw yn galw am weithredu yr un mor frys.
Darllenwch y stori'n llawn yma.