Cymru i herio Seland Newydd yng Nghyfres y Hydref

Cymru i herio Seland Newydd yng Nghyfres y Hydref
Fe fydd torf lawn yn Stadiwm y Principality am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig ddydd Sadwrn wrth i Gymru wynebu Seland Newydd yng ngêm gyntaf Cyfres yr Hydref.
Mae Cymru wedi gweld hi'n anodd wrth herio'r crysau duon dros y blynyddoedd diwethaf ac fe fydd y crysau cochion yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf ers 1953.
Ond bydd rhai o chwaraewyr mwyaf adnabyddus tîm Wayne Pivac yn absennol, gan gynnwys Dan Biggar a Louis Rees-Zammit - gan nad yw eu clybiau yn Lloegr yn rhyddhau eu chwaraewyr ar gyfer dyletswyddau rhyngwladol y penwythnos hwn.
Mae'r garfan hefyd wedi'i daro'n galed gan anafiadau wrth i'r cefnwr Liam Williams barhau i wella o lawdriniaeth ar ei bendics a'r bachwr Ken Owens wedi methu prawf ffitrwydd hanner awr ar ôl cael ei enwi yn y XV cychwynnol.
Bu'n rhaid i brif hyfforddwr Pivac ddibynnu ar chwaraewyr amhrofiadol i lenwi'r bylchau.
Bydd y blaenasgellwr Taine Basham yn dechrau am y tro cyntaf i'w wlad, a bydd y bachwr Kirby Myhill yn chwarae ei gêm gyntaf i Gymru oddi ar y fainc.
Mae rhai hen wynebau hefyd wedi dychwelyd i'r tîm - fe fydd y maswr Gareth Anscombe yn chwarae i Gymru am y tro cyntaf ers dwy flynedd ar ôl dioddef anaf gwael i'w ben-glin ac mae Rhys Priestland wedi'i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers 2017.
Mae'r Cymry yn wynebu her fawr i oresgyn tîm sydd wedi ennill saith o'i wyth gêm ddiwethaf - gan gynnwys ennill y Bencampwriaeth Rygbi a buddugoliaeth o 104-14 yn erbyn yr UDA.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd y gohebydd rygbi, Cennydd Davies y bydd hi'n gêm "anodd" i Gymru.
"Mae hi’n mynd i fod yn anodd, mae hi wastad yn anodd yn yr Hydref oherwydd mae timoedd hemisffer y de yn dod ar gefn eu cystadleuaeth nhw.
“Mi fydd y garfan yn cael ei phrofi i’r eithaf yfory oherwydd yr absenoldebau."
Tîm Cymru
Johnny McNicholl; Owen Lane, Jonathan Davies, Johnny Williams, Josh Adams; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Wyn Jones, Ryan Elias, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Ross Moriarty, Taine Basham, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Kirby Myhill, Rhys Carre, Dillon Lewis, Will Rowlands, Seb Davies, Gareth Davies, Rhys Priestland, Ben Thomas.
Tîm Seland Newydd
J Barrett; W Jordan, A Lienert-Brown, D Havili, R Ioane; B Barrett, TJ Perenara; J Moody, C Taylor, N Laulala, B Retallick, S Whitelock (c), E Blackadder, D Papalii, A Savea.
Eilyddion: S Taukei'aho, K Tu'inukuafe, T Lomax, T Vaa'i, A Ioane, B Weber, R Mo'unga, S Reece.
Llun: Asiantaeth Huw Evans