Rhagolwg Cymru Premier

Yn ystod wythnosau agoriadol y tymor, yr un hen ystrydeb sydd i’w glywed gan y rheolwyr yn mynnu nad ydyn nhw’n edrych ar y tabl tan fod o leiaf 10 gêm wedi ei chwarae.
Nawr ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hynny bydd Y Seintiau Newydd yn fwy na bodlon o fod saith pwynt yn glir o’r gweddill, tra bydd y pencampwyr Cei Connah yn crafu eu pennau wrth weld eu bod yn 10fed yn y tabl, dim ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Nos Wener, 29 Hydref
Cei Connah (10fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl ennill y bencampwriaeth am y ddau dymor diwethaf nid llawer fyddai wedi rhagweld y byddai’r pencampwyr, Cei Connah yn eistedd yn y 10fed safle gyda dim ond 10 pwynt wedi 10 gêm gynghrair.
Ym mhob un o’r pum tymor blaenorol roedd gan Gei Connah o leiaf 20 pwynt wedi’r 10 gêm agoriadol, a dyma’r tro cyntaf i’r tîm fynd ar rediad o wyth gêm heb ennill mewn tymor ers 2014/15.
Ond caiff Craig Harrison ddim cyfle gwell i ddod a’r rhediad i ben na’r penwythnos yma, gan fod Cei Connah yn croesawu’r clwb sydd ond wedi sicrhau un pwynt o’u 19 gêm gynghrair ddiwethaf.
Er y rhediad gwael, dim ond Y Seintiau Newydd (8) sydd wedi ildio llai na Chei Connah (9) yn y gynghrair y tymor hwn, a bydd bechgyn Glannau Dyfrdwy ychydig yn fwy hyderus ar ôl ennill 4-0 yn erbyn Treffynnon nos Fawrth gan gamu ymlaen i rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG.
Fe enillodd Cei Connah 2-0 oddi cartref yn erbyn y Derwyddon ar y penwythnos agoriadol, a dyw’r Nomadiaid heb golli gartref yn erbyn hogiau’r Graig ers Rhagfyr 2011.
Aberystwyth (11eg) v Y Fflint (2il) | Nos Wener – 20:00
Ar Goedlan y Parc bydd y tîm sydd yn ail o’r gwaelod yn herio’r clwb sydd yn ail o’r brig yn fyw ar-lein.
Sgoriodd Kai Edwards ei gôl gynghrair gyntaf ers Rhagfyr 2017 i gipio pwynt gwerthfawr i’r Fflint yn erbyn ei gyn-glwb, Y Seintiau Newydd nos Wener ddiwethaf.
Mae goliau hwyr yn dod yn dipyn o arferiad da i dîm Neil Gibson gyda’r Fflint wedi sgorio yn y munudau olaf yn eu tair gêm gynghrair ddiwethaf i selio buddugoliaethau yn erbyn Caernarfon a’r Barri cyn sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Y Seintiau Newydd.
A gôl hwyr oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yma yn y gêm gyfatebol diolch i’r digwyddiad dadleuol wedi 94 munud wrth i gapten Y Fflint, Alex Jones lawio’r bêl i gefn y rhwyd yng Nghae y Castell (1-0).
Mae sgorio goliau yn broblem ddifrifol i Aberystwyth ar hyn o bryd gan fod y Gwyrdd a’r Duon wedi methu a tharo’r rhwyd mewn saith o’u 10 gêm gynghrair y tymor hwn, a dyw’r criw o Geredigion heb sgorio yn eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint.
Dim ond un pwynt oedd yn gwahanu’r ddau dîm yma yn y 10fed a’r 11eg safle ar ddiwedd y tymor diwethaf, ond mae gwahaniaeth sylweddol wedi bod yn safon perfformiadau’r ddau glwb y tymor hwn.
Dydd Sadwrn, 30 Hydref
Caernarfon (7fed) v Y Barri (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl cyrraedd y Chwech Uchaf am y tri tymor diwethaf bydd Caernarfon a’r Barri yn siomedig o fod yn hanner isaf y tabl wedi’r 10 gêm agoriadol.
Er eu llwyddiant dros y tymhorau diwethaf mae’r ddau glwb wedi llithro’n araf i lawr y tabl dros y tri tymor diwethaf gyda’r Barri’n gorffen un safle’n uwch na’r Cofis ym mhob tymor ers eu dyrchafiad. (18/19 Barri 3ydd, C'fon 4ydd | 19/20 Barri 4ydd, C'fon 5ed | 20/21 Barri 5ed, C'fon 6ed).
Mae Caernarfon wedi colli eu tair gêm ddiwethaf, tra bod Y Barri ond dau bwynt uwchben safleoedd y cwymp ar ôl sicrhau dim ond un pwynt o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf.
Er hynny, roedd yna achos dathlu ar Barc Jenner nos Fawrth wrth i’r Barri chwalu Pontypridd 7-1 i selio eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG.
Aeth y timau benben bump gwaith y tymor diwethaf – Y Barri’n ennill tair a Chaernarfon yn ennill dwy gan gynnwys buddugoliaeth y Cofis ar Barc Jenner yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.
Hwlffordd (9fed) v Y Drenewydd (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Y Drenewydd yw’r tîm i’w wylio ar hyn o bryd wedi i hogiau Chris Hughes godi’n hafal ar bwyntiau gyda’r Fflint (2il) ar ôl ennill eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf.
Mae Hwlffordd hefyd wedi esgyn i fyny’r tabl ac allan o safleoedd y cwymp ar ôl colli dim ond un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf.
Ond roedd ‘na siom i’r ddau glwb yma yng nghanol wythnos gan i’r ddau dîm golli yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG, a gyda’r clybiau eisoes wedi colli eu lle yng Nghwpan Cymru bydd eu sylw cyfan yn mynd tuag at y gynghrair am weddill y tymor.
Dyw’r Drenewydd heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf yn Nôl-y-Bont (ennill 5, cyfartal 1), ac ar ben hynny, dim ond unwaith mae’r Robiniaid wedi colli oddi cartref mewn 12 gêm gynghrair.
Pen-y-bont (6ed) v Y Bala (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Wedi dechrau araf i’r tymor mae Pen-y-bont bellach wedi codi i’r Chwech Uchaf yn dilyn rhediad o dair buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.
Byddai buddugoliaeth i Ben-y-bont yn eu codi uwchben Y Bala, sydd wedi cael eu llusgo i’r 4ydd safle ar ôl methu ac ennill dim un o’u tair gêm gynghrair ddiwethaf.
Ond roedd ‘na reswm i wenu ar Faes Tegid nos Fawrth wedi i’r Bala guro’r Drenewydd 3-1 i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG – cystadleuaeth nad ydyn nhw erioed wedi ei hennill o’r blaen.
Dyw Pen-y-bont erioed wedi curo’r Bala yn y gorffennol, ac roedd tîm Rhys Griffiths wedi colli pob un o’u saith gêm flaenorol yn erbyn criw Colin Caton cyn sicrhau gêm gyfartal ym Maes Tegid ar benwythnos agoriadol y tymor hwn.
Y Seintiau Newydd (1af) v Met Caerdydd (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl gollwng pwyntiau am dim ond yr eildro’r tymor hwn bydd Y Seintiau Newydd yn ceisio anghofio am rwystredigaethau’r penwythnos diwethaf yn Y Fflint a chanolbwyntio ar agor y bwlch ymhellach ar y brig.
Roedd Anthony Limbrick yn amlwg yn teimlo bod ei dîm wedi cael cam yn dilyn penderfyniadau dadleuol ar Gae y Castell, ond mae’r Seintiau’n parhau i arwain y pac ac yn dal heb golli gêm gynghrair y tymor hwn.
Bydd y gwynt yn hwyliau Met Caerdydd ar ôl curo Hwlffordd nos Fawrth gan sicrhau lle yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG.
Dim ond unwaith mae’r myfyrwyr wedi colli oddi cartref mewn naw gêm gynghrair a bydd Dr Christian Edwards yn ysu i gyrraedd Ewrop yn ei dymor olaf wrth y llyw yng Nghampws Cyncoed.
Enillodd Y Seintiau Newydd eu dwy gêm yn erbyn y myfyrwyr y tymor diwethaf, ond cyn hynny roedd cewri Croesoswallt wedi mynd ar rediad o chwe gêm heb ennill yn erbyn Met Caerdydd.