COP26: Gobaith am drafodaethau 'adeiladol' rhwng China a’r gorllewin

COP26: Gobaith am drafodaethau 'adeiladol' rhwng China a’r gorllewin
Wrth i arweinwyr y byd baratoi i ymgynnull yng Nglasgow ar gyfer cynhadledd COP26 mae Karl Davies, sy’n athro Saesneg yn China, wedi bod yn siarad â rhaglen Newyddion S4C am bwysigrwydd yr uwchgynhadledd i'r wlad.
Bydd mwy na 200 o arweinwyr yn cwrdd yng Nglasgow i drafod a phenderfynu sut i ddelio gyda newid hinsawdd rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd ac mae Karl Davies yn gobeithio bydd y trafodaethau yn rhai adeiladol.
“Mi fydd 'na sylw yn sicr i’r gynhadledd yma, a dwi'n credu bo hi'n anorfod os oes 'na anghydfod yna bydd hwn yn cael ei weld fel parhad o'r ymryson hefo'r gorllewin,” meddai.
“Ond os oes 'na le ar gyfer trafodaethau agored ac adeiladol, a bod hi'n ymddangos bod China yn cael ei chymryd o ddifrif, a bod 'na gydnabyddiaeth bo ganddi hi agenda i hun mi allai fod yn adeiladol iawn dwi'n credu.
Ar ôl amheuon a fyddai Arlywydd China, Xi Jinping, yn mynychu’r gynhadledd daeth cadarnhad heddiw y byddai’n ymuno drwy gyswllt fideo.
Nod China yw cyrraedd brig allyriadau carbon cyn 2030 a bod yn wlad garbon niwtral erbyn 2060.
Yn ôl yr athro mae problemau diweddar gyda chyflenwad ynni yn wlad wedi amlygu'r angen i fanteisio ar allu technolegol y wlad i gyrraedd ei thargedau “uchelgeisiol”.
“Mae 'na broblem yma. Mae 50% o ynni China yn dod o lo, felly ma' nhw'n rhyfeddol o ddibynnol ar lo ac mae'n anodd gweld sut ma' nhw'n gallu symud oddi wrth hynny'n gyflym iawn.
“Mae 'na broblemau wedi bod dros y misoedd diwethaf 'ma oherwydd bod 'na ddiffyg trydan wedi bod, mae rhai gorsafoedd wedi cau i lawr, mae pris glo wedi dyblu dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 'na brinder glo, ac felly ma' 'na doriadau trydan wedi bod, ffatrïoedd wedi gorfod cau, ffatrïoedd wedi bod ar wythnos waith fer, felly ma' 'na broblemau wedi bod yn ddiweddar.
"Ochr yn ochr â'r cynnydd yn y pris glo a'r prinder glo ma' 'na broblemau wedi bod efo ynni adnewyddol hefyd, diffyg ynni gwynt, diffyg ynni dŵr oherwydd bod y sychder wedi bod, felly un peth sy'n sicr wedi digwydd dros y misoedd diwethaf 'ma ydy bod yr awdurdodau a phawb arall yn China wedi gorfod meddwl yn ddwys iawn iawn be ydy'r dyfodol.
“Mae'n ddigon posib bod y problemau yma sy' di bod dros y misoedd diwethaf 'ma ynglŷn â glo, ynglŷn ag ynni adnewyddol, ynglŷn â sicrhau bod drysau ffatrïoedd yn cael eu cadw yn agored a bod y peiriannau yn gweithio wedi crisialu meddyliau pobl a fydd 'na feddwl o ddifrif o hyn allan ynglŷn â sut i fynd i'r afael a hyn.
“Mae’n ddiddorol iawn, pan dwi'n siarad gyda fy myfyrwyr i a dwi'n gofyn iddyn nhw os di nhw'n optimistaidd neu beidio ynglŷn â'r dyfodol? Ynglŷn â rheoli'r newid hinsawdd ac yn y blaen? Bron yn ddieithriad ma' nhw'n dod yn ôl at y gallu technolegol enfawr yma sy' gan China, ac wrth iddyn nhw ddatblygu yn mynd i fynd i'r afael a'r problemau yma.
“Felly ma' 'na ffydd mawr fod gallu technolegol China a'r datblygiadau sy'n dod rŵan, gyda roboteg er enghraifft, yn mynd i ganiatáu i China fynd i'r afael â hwn o fewn yr amserlen sydd ganddi.”