Newyddion S4C

Myfyrwraig 'ymroddgar' wedi lladd ei hun ar ôl canlyniad arholiad anghywir

North Wales Live 28/10/2021
Mared Foulkes

Fe laddodd myfyrwraig "ymroddgar" ei hun oriau wedi iddi glywed ei bod wedi methu arholiadau ac na fyddai'n cael parhau â'i gradd.

Roedd Mared Foulkes, 21, o Borthaethwy ar Ynys Môn yn ei hail flwyddyn yn astudio fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar ddechrau pandemig Covid-19.

Bu farw Mared ar 8 Gorffennaf 2020 ar ôl syrthio o Bont Britannia.

Dywedodd mam Mared, Iona Foulkes, o flaen y cwest fod marwolaeth Mared yn "ganlyniad uniongyrchol" o gael gwybod ei bod wedi methu ei harholiadau.

Mae North Wales Live yn adrodd fod Pennaeth yr Ysgol, Yr Athro Mark Gumbleton, wedi dweud fod "bob amser gwersi i'w dysgu" yn dilyn marwolaeth Mared.

Darllenwch fwy yma.

Llun teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.