Meddyg ‘uchel ei barch’ wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Conwy
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod meddyg “uchel ei barch” wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghyffordd Llandudno yn gynharach fis Hydref.
Bu farw Dr Dawid Oberholzer, 75 oed, mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar ffordd yr A470 ddydd Mawrth 19 Hydref.
Yn ôl yr heddlu, roedd Dr Oberholzer yn cael ei barchu’n fawr fel gweithiwr yn sector Iechyd Meddwl Gogledd Orllewin Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd Sarjant Raymond Williams o Uned Blismona’r Ffyrdd: “Roedd Dr Oberholzer yn weithiwr meddygol hynod adnabyddus ac uchel ei barch, a weithiodd yn y sector Iechyd Meddwl yng Ngogledd Orllewin Cymru ers blynyddoedd".
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth bellach wrth deulu a ffrindiau Dr Oberholzer.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r holl lygad dystion ac aelodau’r cyhoedd a gysylltodd gyda gwybodaeth".
Ychwanegodd Sarjant Williams: “Hoffwn siarad yn benodol gyda ffrindiau agos ac aelodau teulu Dr Oberholzer mewn cysylltiad â’n hymchwiliad i’r digwyddiad trasig hwn".
Mae’r heddlu’n gofyn i bobl gysylltu gan ddefnyddio cyfeirnod Z157995.
Llun: Heddlu Gogledd Cymru