Dyn yn ei 70au wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn yn ei 70au farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ddydd Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i wrthdrawiad dau gerbyd ger mynedfa Gwesty Neuadd Bodysgallen ar gyrion Llandudno am 15:46.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Volkswagen gwyn a Volkswagen du.
Cafodd gyrrwr y car gwyn ei gyhoeddi’n farw yn y fan a’r lle. Y gred yw mai dyn lleol yn ei 70au ydyw, meddai’r heddlu.
Mae gyrrwr y car arall yn derbyn triniaeth am anafiadau man yn yr Ysbyty.
Mae Rhingyll Raymond Williams o Uned Plismona’r Ffyrdd Gogledd Cymru wedi cydymdeimlo gyda theulu’r dyn.
Maent yn apelio ar unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio’r cyfeirnod Z153572.