Newyddion S4C

Undeb Myfyrwyr yn galw am gefnogaeth yn dilyn cynnydd mewn achosion o sbeicio

27/10/2021

Undeb Myfyrwyr yn galw am gefnogaeth yn dilyn cynnydd mewn achosion o sbeicio

Mae Undeb Myfyrwyr Abertawe yn galw am fwy o gefnogaeth i ddiogelu pobl ifanc rhag cael eu ‘sbeicio’.

Dywedodd Katie Phillips, Llywydd Undeb Myfyrwyr Abertawe wrth Newyddion S4C ei bod yn “poeni” am gynnydd mewn achosion o sbeicio ers mis Medi, yn enwedig i ferched.

Daw hyn wrth i ymgyrch ‘Girls Night In’ annog myfyrwyr i aros adref a pheidio â mynd i glybiau nos a bariau am un noson yn sgil y cynnydd mewn achosion o sbeicio diodydd a sbeicio trwy bigiad.

Bydd myfyrwyr o brifysgolion ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn yr ymgyrch gyda merched o Abertawe’n aros adref nos Fercher.

‘Cynyddu dros yr wythnos diwethaf’

Yn ôl Llywydd Undeb Myfyrwyr Abertawe, mae’r broblem o sbeicio diodydd wedi bodoli ers amser hir, ond mae nifer yr achosion ar gynnydd yn ddiweddar.

Dywedodd Katie Phillips: “Ni yn clywed am pethe fel hyn so mae'n rhywbeth ni wedi sylwi arno a ni wedi bod yn monitro dros yr wythnosau diwethaf.

“Ond mae rili wedi cynyddu dros tua'r wythnos diwethaf yn rili gryf - ddim jyst yn Abertawe, dros y wlad.

“Wrth gwrs mae fe'n rili poeni ni ac ni yn trio monitro a deall sut mae pethe fel hyn yn digwydd".

Image
Katie Phillips
Katie Phillips, Llywydd Undeb Myfyrwyr Abertawe.

Dywedodd Katie Phillips ei fod yn amhosib gwybod sawl achos mae’r Undeb wedi derbyn dros yr wythnosau diwethaf gan fod cyfran uchel o’r achosion ddim yn cael eu hadrodd i’r heddlu nac i'r brifysgol.

Ychwanegodd ei bod yn annog myfyrwyr i fynd at yr heddlu ar ôl iddyn nhw gael cymorth meddygol os ydyn nhw’n meddwl eu bod wedi cael eu sbeicio.

'Y weithred o sbeicio yn ffiaidd'

Mewn ymateb i’r cynnydd mewn achosion, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r weithred o sbeicio yn ffiaidd. Rydym eisiau rhoi diwedd ar holl drais yn erbyn menywod a merched.

“Rydym yn cryfhau ein Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhyw i gynnwys ffocws ar drais ac aflonyddu yn erbyn menywod ar y stryd, yn y gweithle ac yn y cartref fel rhan o’n gwaith i sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw".

'Maen nhw'n eitha drud'

Yn ôl Katie, mae sawl mesur mewn lle yn barod er mwyn diogelu myfyrwyr yn yr Undeb.

Dywedodd: “O fewn yr Undeb, ni'n cael fel cwpwl o bars a pethe fel na so ni ers blynyddoedd wedi neud pethe fel ni'n cael CCTV, ni'n cael y 'Ask Angela' scheme, pethau fel na.

“Ond ni wedi prynu cwpwl o fel bottle stoppers, drinks caps, pethau fel na so ni'n mynd i rhoi hwnna tu ôl [y bar] ac ni hefyd wedi edrych ar fel mae na 'scrunchies' ti'n gallu cael, ond maen nhw'n eitha drud".

Ers mis Medi, mae’r Undeb wedi buddsoddi mewn dulliau pellach i ddiogelu myfyrwyr.

Mae undebau prifysgolion eraill yng Nghymru wedi dilyn camau tebyg, gydag Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn cadw profion tu ôl i’r bar er mwyn gweld os oes ôl cyffur mewn diod.

Ond, mae Katie’n dweud bod angen mwy o gymorth ariannol er mwyn sicrhau diogelwch myfyrwyr.

Dywedodd Katie: “Fel Undeb Myfyrwyr, does dim ganddo ni lot o arian ac ni'n cael staff turnover rili uchel so mae pobl newydd yn dod mewn bob blwyddyn.

“So os ti'n talu i nhw mynd ar fel training course, bydd nhw'n gadael falle mewn 3 mlynedd ar ôl gadel prifysgol so i neud yn siwr bod pawb, security a pobl tu ôl y bars yn cael y training na yn hollbwysig, so ie ni'n trial gorau ni ond bydd mwy o arian yn rili helpu".

Yn ôl Llywodraeth Cymru, cyfrifoldeb y Brifysgol fyddai rhoi mwy o gymorth ariannol i’r Undeb.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Kevin Child: "Rydym ni ym Mhrifysgol Abertawe yn bryderus iawn bod hyn wedi digwydd i'n myfyrwyr ac mae tîm lles y brifysgol yn cynnig y gefnogaeth y maen nhw eisiau ar hyn o bryd.

"Diogelwch ein myfyrwyr yw ein prif flaenoriaeth a byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr, ein partneriaid ac asiantaethau ar gamau i ddiogelu'n cymuned o fyfyrwyr".

'Peidiwch â bod ofn dweud'

Ychwanegodd Katie: “Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich sbeicio, dewch i’r Undeb, siaradwch â ni a’r heddlu – ond ewch i’r ysbyty yn gyntaf.

“Peidiwch â bod ofn dweud.  Mae’n well bod yn saff.

“Ry’n ni eisiau gwneud Abertawe’n ddinas saff i bawb".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.