Newyddion S4C

Buddugoliaeth o 4-0 i ferched Cymru yn erbyn Estonia

26/10/2021
x

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi ennill yn erbyn Estonia o 4-0 yn un o rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2023.

Gyda thorf o 5,455 o bobl, torrwyd record trwy ddenu'r nifer fwyaf o gefnogwyr i gêm gartref rhyngwladol merched Cymru. 

Ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Slofenia nos Wener, roedd gobeithion Gemma Grainger am fuddugoliaeth yn fawr.

Dau newid oedd i’r tîm gyda Helen Jones yn lle Kayleigh Green a Carrie Jones yn lle Esther Morgan.

O’r gic gyntaf, cafodd tîm Gemma Grainger ddechrau da gyda’r merched yn ymosod ar noson wyntog a gwlyb yng Nghaerdydd.

Roedd Sophie Ingle yn chwilio am gyfleoedd gyda shot isel yn y deng munud cyntaf a sawl ymgais gan Natasha Harding hefyd.

27' - 1-0 i Gymru

Daeth y gôl gyntaf i Angharad James ar ôl 27 o funudau gyda Sophie Ingle wrth law.

Roedd cyfle i Estonia daro’n ôl gyda chic rydd dair munud yn ddiweddarach, ond llwyddodd arbediad Laura O’Sullivan i gadw’r sgor o 1-0 i Gymru ar hanner amser.

48' - 2-0 i Gymru

Funudau i mewn i’r ail hanner, gol arall wrth i Helen Ward gymryd pàs gan Rhiannon Roberts i ddod â’r sgor i 2-0 i Gymru.

54' - 3-0 i Gymru 

Natasha Harding ddaeth â’r drydedd gôl ar ôl 54 munud gan roi mwy o hyder i ferched Cymru gyda sgor o 3-0.

Gyda Chymru’n gyffyrddus ar y blaen, roedd cyfle gan Gemma Grainger i wneud ambell newid i’r 11 ar y cae.

Gwnaeth Hanna Cain argraff yn ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru wrth iddi gymryd lle Helen Ward ar ôl 61 o funudau.

91' - 4-0 i Gymru

Gwasgu gôl arall ar ôl 91 o funudau wnaeth Sophie Ingle i sicrhau buddugoliaeth o 4-0 i Gymru.

Mae breuddwyd Gemma Grainger o gyrraedd Cwpan y Byd yn fyw wrth i’w thîm lwyddio i beidio a cholli un gêm yn y rowndiau rhagbrofol.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.