Newyddion S4C

Galwadau am ddedfrydau llymach gan fab seiclwr fu farw

ITV Cymru 27/10/2021
seiclwr fu farw a'i fab

Mae mab seiclwr fu farw mewn gwrthdrawiad â char wedi galw am ddedfrydau llymach er mwyn gwella diogelwch seiclwyr.

Cafodd Paul James o Lanbadarn Fawr yng Ngheredigion ei daro gan gar ar yr A487 ger Aberystwyth wrth hyfforddi ar gyfer taith feic elusennol yn 2019.

Disgynnodd y cynghorydd a chyn-filwr i mewn i’r ffordd ble gafodd ei daro gan gar arall.

Lowri Powell o Benrhyn-coch oedd yn gyrru’r car wnaeth fwrw Mr James oddi ar ei feic yn y lle cyntaf.

Dywedodd yn y llys bod yr haul wedi ei dallu, felly ni welodd y seiclwr o’i blaen hi, ond ym mis Medi y llynedd cafodd ei chanfod yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal.

Cafodd Powell ei dedfrydu i chwe mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd, yn ogystal â gwaharddiad gyrru am 12 mis.

Yn dilyn marwolaeth ei dad, dechreuodd Cameron James  ddysgu Cymraeg, yn rhannol fel teyrnged i’w dad.

'Byth wedi dweud hwyl fawr'

Wrth siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Cameron ei fod yn teimlo y byddai dedfrydau llymach yn gwneud i yrwyr feddwl mwy am y ffordd maent yn gyrru o amgylch seiclwyr.

Dywedodd: “(Dydy e) ddim digon llym. Dwi ddim yn deall sut mae rhywun yn cymryd bywyd rhywun arall a just cael suspended sentence. Dyw e ddim yn neud unrhyw sens i fi".

Gwnaeth Y Byd ar Bedwar gysylltu â Powell ond dewisodd hi beidio gwneud unrhyw sylwadau.

Cafodd marwolaeth ei dad effaith drawiadol ar ei deulu a’r gymuned leol.

Dywedodd Cameron: “Dwi byth yn anghofio’r diwrnod yna achos dwi’n cofio’n foment naeth fy mam ffonio fi. O’n i ddim yn credu fe achos mae’n rhywbeth ti byth yn disgwyl clywed.

Ychwanegodd: “Roedd fy nhad yn berson doniol, person hyfryd oedd moyn helpu pob person a gwneud llawer am y gymuned. Dwi’n meddwl amdano fe bob dydd.

“O’n i byth wedi cael y cyfle i ddweud hwyl fawr i fy nhad a dyna rhywbeth mor galed i fi".

Mae poblogrwydd seiclo wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac yn ystod y pandemig roedd mwy o bobl yn teithio ar ddwy olwyn nag unrhyw adeg ers y 1960au.

Cynyddodd draffig seiclo 68% yn 2020 wrth i’r nifer o geir ar heolydd Cymru ostwng, ond mewn adroddiad diweddar ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd 49 y cant o bobl a holwyd eu bod yn poeni nad yw ffyrdd Cymru’n ddiogel i seiclwyr.

Roedd y ffigwr yma’n cynyddu i 67 y cant ymhlith pobl sy’n seiclo’n rheolaidd am deithiau lleol.

Cafodd 96 seiclwr eu lladd neu anafu’n ddifrifol yng Nghymru'r llynedd.

'Diwylliant ni a nhw'

Yn ôl Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters, sydd â chyfrifoldeb am deithio llesol, mae seiclo’n ddiogel a’n fuddiol i’n hiechyd.

Ond mae’r llywodraeth yn gwario £75 miliwn ar deithio llesol eleni ac mae’r gweinidog yn cydnabod y bydd hi’n cymryd amser a buddsoddiad i wella isadeiledd seiclo Cymru.

Dywedodd Mr Waters: “Er ein bod wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer o bobl sy’n seiclo dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd cyfnodau clo, dydyn ni heb weld cynnydd cymharol yn y nifer o anafiadau, sy’n addawol iawn.

“Mae gennym ni broblem ag ymddygiad rhai gyrwyr ac mae hyn yn rhannol ddiwylliannol. Achos mae cyn lleied o bobl yn y wlad yma’n seiclo, dydy gyrwyr ddim yn cael y profiad yna o fod ar gefn beic.

“Rydym wedi creu diwylliant yn y wlad yma o ‘ni a nhw’, ble mae gyrwyr yn cael eu hannog gan eu bocs dur peryglus i wneud beth ddiawl maen nhw moyn ac mae’n rhaid i ni wynebu’r ymddygiad yma ac erlyn gyrru peryglus".

Gallwch wylio'r stori'n llawn ar Y Byd ar Bedwar ar S4C am 20:25 nos Fercher.

Lluniau: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.