Siaradwyr Cymraeg yn ‘wynebu anghyfiawnder’ wrth sefyll prawf gyrru
Siaradwyr Cymraeg yn ‘wynebu anghyfiawnder’ wrth sefyll prawf gyrru
Mae siaradwyr Cymraeg yn wynebu anghyfiawnder os ydynt eisiau sefyll eu prawf gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Daw’r Comisiynydd i'r casgliad bod yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn gweithredu yn groes i’w hymrwymiad i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
Mae’r adroddiad yn cynnwys canlyniadau ymchwiliad i weithrediad Cynllun Iaith Gymraeg yr asiantaeth, gyda'r canfyddiadau'n awgrymu ei bod hi'n anoddach i dderbyn prawf gyrru yn y Gymraeg.
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn argymell y dylai'r DVSA gynnal adolygiad o’r ffordd caiff profion cyfrwng Cymraeg eu cynnal ac yn galw ar y DVSA i ddod o dan gyfundrefn safonau’r Gymraeg.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar argaeledd profion drwy'r Gymraeg cyn dechrau pandemig Covid-19.
Dywedodd y DVSA mai eu blaenoriaeth yw "helpu pawb trwy oes o yrru’n ddiogel" ac y byddan nhw nawr yn ystyried adroddiad y Comisiynydd ac yn ymateb maes o law.
'Nifer o achosion'
Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wrth Newyddion S4C: “Mi o’dd ‘na batrwm ag o achos nifer yr achosion, mi wnes i benderfynu cynnal ar fenter fy hun”.
Yn ôl yr adroddiad, roedd y ganran o brofion gyrru cyfrwng Cymraeg a gafodd eu canslo bron i dair gwaith yn uwch na’r ganran o brofion cyfrwng Saesneg a gafodd eu canslo.
Dywed yr adroddiad fod yn rhaid aros pump i chwe wythnos yn hirach cyn sefyll prawf gyrru ymarferol yn y Gymraeg o’i gymharu â’r Saesneg.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi os yw unigolyn eisiau gwneud cais i sefyll prawf gyrru ymarferol drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n rhaid iddo nodi bod ganddo ‘ofynion arbennig’.
Mae cynllun iaith y DVSA, yn nodi y bydd ‘yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal’, bod ‘profion gyrru yn y Gymraeg ar gael ym mhob canolfan profi yng Nghymru’, a bod ‘safon ac ansawdd ein gwasanaethau yn gyson ledled Cymru’.
Ar hyn o bryd, mae Cynlluniau Iaith Gymraeg ond yn golygu fod Comisiynydd y Gymraeg yn gallu argymell newidiadau i asiantaethau.
Mae gwefan y Comisiynydd yn nodi mai ei rôl yw “darparu cyngor a chymorth” er mwyn “osgoi sefyllfaoedd o ddiffyg cydymffurfiaeth”.
Ond dywedodd Comisiynydd y Gymraeg wrth Newyddion S4C fod cynlluniau iaith yn "wan" ac mae nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i orfodi safonau iaith ar asiantaethau fel y DVSA.
Dywedodd:"Hwyrach erbyn hyn bod angen i Lywodraeth Cymru ystyried os oes rhaid gwneud yn iawn am y profiadau 'ma gan bobl ifainc yn benodol ag ystyried dwyn safonau neu gosod safonau ar asiantaethau fel hyn, er mwyn bod gwir ansawdd y gwasanaethau yn gyfartal yn y ddwy iaith".
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mater i’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau yw ymateb i argymhellion Comisiynydd y Gymraeg".
Mae'r llywodraeth wedi gofyn i’r Comisiynydd wneud darn o waith i "ystyried effaith Safonau’r Gymraeg ar ddefnydd y Gymraeg ac i ddeall y rhwystrau mae sefydliadau yn wynebu wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg".
Effaith ar hyder i ddefnyddio’r Gymraeg
Yn ôl y Comisiynydd, mae ymchwil yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg os ydynt yn credu y byddai hynny’n arwain at unrhyw oedi, annifyrrwch neu drafferth.
“Y neges sy’n cael ei rhoi i’n pobl ifanc yw y dylent ddefnyddio’r Saesneg os ydynt am sefyll eu prawf gyrru.
“Ac o edrych ar ba mor isel yw’r niferoedd sy’n sefyll eu prawf drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n amlwg fod hyn yn cael dylanwad ar ddewis iaith unigolion".
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y DVSA: “Blaenoriaeth DVSA yw helpu pawb trwy oes o yrru’n ddiogel.
“Fe wnaethon ni gynorthwyo ymchwiliad y Comisiynydd yr Iaith Gymraeg trwy ddarparu gwybodaeth yn dangos sut mae DVSA yn cefnogi siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd.
"Rydym eisoes wedi cytuno i gynnal archwiliadau mewnol rheolaidd ar ein cynllun Cymraeg a sut rydym yn darparu profion gyrru yn Gymraeg, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wella'r gwasanaeth a ddarparwn.
“Byddwn nawr yn ystyried adroddiad llawn, terfynol y Comisiynydd ac yn ymateb maes o law".
Dywedodd y DVSA eu bod hefyd yn recriwtio hyd at 300 o arholwyr gyrru ychwanegol ar hyn o bryd, ac yn annog unrhyw un sy'n rhugl yn y Gymraeg, sydd â diddordeb mewn gyrru a diogelwch ar y ffyrdd, ac sydd wedi dal trwydded yrru ddilys am y 4 blynedd diwethaf i ystyried gwneud cais.