COP26: Y Frenhines ddim am fynychu yn dilyn cyngor meddygol

Ni fydd y Frenhines yn mynychu cynhadledd hinsawdd COP26, yn dilyn cyngor meddygol i gymryd seibiant.
Fe gafodd y Frenhines Elizabeth brofion cychwynnol wrth dreulio noson yn yr ysbyty nos Fercher, 20 Hydref.
Dyna oedd y tro cyntaf i'r Frenhines aros yn yr ysbyty dros nos ers wyth mlynedd, yn ôl The Mirror.
Daeth cadarnhad gan Balas Buckingham yn gynharach ddydd Mawrth fod y Frenhines wedi ail-ddechrau cymryd rhan mewn rhai dyletswyddau ysgafn yng Nghastell Windsor.
Bellach, mae'r Palas wedi cadarnhau na fydd y Frenhines yn mynychu'r digwyddiad i arweinwyr y byd yn Glasgow fydd yn dechrau ddydd Sul, 31 Hydref.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Swyddfa Dramor (drwy Flickr)