Y Frenhines 'wedi treulio noson yn yr ysbyty'
Fe dreuliodd y Frenhines noson yn yr ysbyty nos Fercher, yn ôl Palas Buckingham.
Cafodd ei thrin gan arbenigwyr yn Ysbyty Brenin Edward VII yn Llundain, lle bu'r staff meddygol yn cynnal "ymchwiliadau cychwynnol".
Bu'n rhaid i'r Frenhines Elizabeth ganslo taith i Ogledd Iwerddon ddydd Mercher, yn dilyn cyngor gan feddygon i gael seibiant am rai dyddiau.
Mae'r Frenhines, sy'n 95 oed, wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau yn ddiweddar gan gynnwys agoriad swyddogol y Chweched Senedd.
Mae The Independent ar ddeall nad oedd ei hymweliad â'r ysbyty yn ymwneud â Covid-19 a dywedodd llefarydd fod y Frenhines yn parhau i fod "mewn hwyliau da".
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Swyddfa Dramor (drwy Flickr)