Tîm merched Cymru’n torri record am y dorf fwyaf i fynychu gêm gartref
Bydd hi'n gêm hanesyddol i dîm pêl-droed merched Cymru yn erbyn Estonia nos Fawrth yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Cwpan y Byd 2023.
Mae tîm Gemma Grainger wedi torri record trwy ddenu'r dorf fwyaf i gêm gartref rhyngwladol merched Cymru.
Bydd y crysau cochion yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Slofenia ddydd Gwener.
🏴🇪🇪 CONFIRMED: Cymru v Estonia will break the record for a Women’s international match in Wales.
— Wales 🏴 (@Cymru) October 26, 2021
1,900 of the tickets have been purchased by junior girls clubs. Diolch am eich cefnogaeth 👏
Get involved 👉 https://t.co/hsH0UFCPVt#BeFootball | #TogetherStronger pic.twitter.com/6gnUlfB8zW
Y record roedd angen ei thorri oedd 5,053 o gefnogwyr a ddaeth i Rodney Parade ar gyfer gêm Cymru'n erbyn Lloegr yn 2018.
Yn hwyr nos Lun, cyhoeddodd gefnogwyr Cymru bod angen gwerthu 200 yn rhagor o docynnau i dorri’r record.
Erbyn amser cinio dydd Mawrth, roedd y record wedi ei thorri, gyda 1,900 o'r tocynnau yn cael eu prynu gan glybiau pêl-droed merched ifanc.
‘Ysbrydoli sêr y dyfodol’
Wrth siarad ddydd Llun, dywedodd rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, Gemma Grainger: “Ry’n ni mor gyffrous i fod mor agos i dorri’r record ar gyfer niferoedd y dorf mewn gêm ryngwladol Merched Cymru.
“Mae mwy na 1,000 o docynnau wedi eu prynu gan glybiau merched ifanc, ac mae’n wych i weld ein tîm Cenedlaethol yn ysbrydoli sêr y dyfodol,” ychwanegodd.
Bydd merched Cymru’n gobeithio cynnal y safon yn dilyn eu buddugoliaeth o 6-0 yn erbyn Kazakhstan yn eu gêm gartref diwethaf ym Mharc y Scarlets.
Mae’r tîm wedi ennill cyfanswm o saith pwynt yn y dair gêm o’r rowndiau rhagbrofol.
Ychwanegodd Gemma Grainger: “Gobeithio y bydd y Wal Goch yn dod yn eu heidiau ddydd Mawrth a gallwn ni roi’r perfformiad y mae’n nhw’n ei haeddu.”
Bydd y gic gyntaf nos Fawrth 26 Hydref am 19:15
Llun: Asiantaeth Huw Evans