
Ymgyrchwyr yn protestio ym Mhenfro yn erbyn 'argyfwng ail gartrefi'

Ymgyrchwyr yn protestio ym Mhenfro yn erbyn 'argyfwng ail gartrefi'
Mae ymgyrchwyr wedi annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r hyn maen nhw wedi ei ddisgrifio fel "argyfwng tai" yn Sir Benfro, yn ystod rali ar draeth y Parrog ddydd Sadwrn.
Fe ddaeth 150 o bobl ynghyd yn Nhrefdraeth yn sgil pryder am effaith ail gartrefi ar y farchnad dai, a’r nifer o dai fforddiadwy sydd ar gael.
Un oedd yn protestio oedd Heledd Evans, sydd newydd ddychwelyd o’r brifysgol i fyw gyda’i rhieni ym mhentref Trewyddel.
“Wedi i mi dderbyn swydd ac yn y blaen dwi moyn prynu tŷ yn y dyfodol agos, ond ma' pethau'n edrych yn eithaf ansicr ar y funud o ran argaeledd tai,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.
“Unwaith ma' nhw ar y farchnad ma' nhw'n mynd yn syth a mynd am brisiau sy' allan o'n nghyrraedd i.”
Pris tŷ ar gyfartaledd yn Sir Benfro yw £227,000, ac yn ôl yr ymgyrchwyr, mae tai teras tair ystafell wely yn Nhrefdraeth yn gwerthu am dros £400,000.
Dywedodd un o drefnwyr y rali, Hedd Ladd-Lewis bod y farchnad dai “allan o reolaeth” yn yr ardal a “nad oedd gobaith i bobl leol fyw yn eu cymunedau.”
Pleidleisiodd cynghorwyr Sir Benfro yn ddiweddar dros ddyblu treth y cyngor i berchnogion ail gartrefi.

Yn ôl Heledd nid codi mwy o dai yn yr ardal yw’r ateb.
“Beth sydd angen i ni neud i sicrhau bod canran o'r tai sydd ar gael yn cael i neilltuo ar gyfer ieuenctid.
“Fi'n gwybod fod, er enghraifft ym Mharrog, ma' hen dai cyngor ma'n rhaid i chi fod yn bobl leol i'w prynu nhw, a fi'n credu bo hwnna'n rhywbeth pwysig falle bo 'na ryw reol bod canran mawr o'r tai ymhob pentref yn cael eu gwerthu i bobl leol yn unig."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru “Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno mesurau pellach i fynd i’r afael ag effeithiau ail gartrefi, bydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Dywedodd y Llywodraeth eu bod nhw am adeiladu 20,000 o dai carbon isel i’w osod ar rent i geisio lleddfu effeithiau’r argyfwng dai.