
Pryder am ddyfodol rhaglenni Cymraeg i blant

Pryder am ddyfodol rhaglenni Cymraeg i blant
Mae pryder na fydd modd cynhyrchu rhaglenni Cymraeg eiconig fel Superted a Sam Tân yn y dyfodol.
Daw hyn wrth i Lywodraeth San Steffan ystyried dyfodol cronfa ariannol sy'n cynnig cymhorthdal i gynhyrchu rhaglenni i blant ar sianeli darlledu cyhoeddus.
Mae pump y cant o arian y gronfa'n cael ei neilltuo i raglenni Celtaidd.
Dywedodd Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru wrth raglen Newyddion S4C y byddai cau'r gronfa yn "ergyd drom i S4C, i gwmnïau darlledu, ac i'r gynulleidfa iau".
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan, nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto ar ddyfodol y gronfa.

Y ddarlledwraig a'r Cynhyrchydd Teledu Nia Ceidiog ysgrifennodd benodau cyntaf Sam Tân.
Ar ôl ennill grant gan y gronfa, mae Nia wrthi'n cynhyrchu drama i blant 8-12 oed ac mae'n dweud na fydd fyddai'n bosib gwneud hynny heb y grant.
Dywedodd Nia: "Gan fod y gronfa yn un sydd yn cefnogi gwerthoedd darlledu cyhoeddus, yn rhoi cyfle i gynhyrchu rhaglenni lle mae plant yn gweld plant eraill ar y sgrin.
"Nid yn unig unrhyw blant ond gweld plant drwy lens cymuned ei gwlad ei hunain a hefyd bod y gronfa yn canolbwyntio swm helaeth o arian mewn gwirionedd ar gefnogi ieithoedd brodorol y Deyrnas Unedig mae'n galluogi ni i neud a chynhyrchu rhaglenni cyfresi na fyddai ddim yn bosib ar gyfer yr oedran yma".
Cafodd y gronfa ei sefydlu yn 2018 er mwyn cefnogi rhaglenni sy'n adlewyrchu bywyd plant ym Mhrydain, a dros y tair blynedd ddwetha mae £44 Miliwn wedi cael ei roi i gefnogi cyfresi i blant ar wasanaethau cyhoeddus fel Channel 5 ac S4C.
'Ffolineb'
Yn ôl yr animeiddiwr sy'n cael ei adnabod fel 'Tad Superted', Mike Young, byddai cau'r gronfa'r Young Audiences Content fund (YAC) yn "ffolineb".
Bellach mae Mike Young, sy'n wreiddiol o'r Barri, wedi ymgartrefu yn Hollywood.
Dechreuodd ei yrfa'n cynhyrchu Super Ted a Sam Tân ar gyfer S4C cyn eu cyfieithu a'u gwerthu'n ddiweddarach yn Saesneg.
Yn achos S4C meddai, mae'n fwy na chynhyrchu rhaglenni i blant, mae'n mynd tu hwnt - mae'n cadw iaith a diwylliant.
Dywedodd Mike Young:"Os y chi'n edrych ar wledydd eraill, maen nhw'n rhoi cymorthdaliadau enfawr i raglenni plant" ychwanegodd. "Felly dyna'n union y bydd cynhyrchwyr Prydain yn gorfod brwydro'n ei erbyn".
"Os fydd (Llywodraeth y DU) yn diddymu'r grantiau yma bydd y Deyrnas Unedig dan anfantais aruthrol," ychwanegodd.
"Rwy'n gegrwth".
'Ergyd drom'
Fe ddwedodd Cadeirydd TAC a Phrif Weithredwr Rondo Media Gareth Williams bod y gronfa "yn allweddol".
Dywedodd: "Mae'n caniatáu i gwmnïau i elwa mewn meysydd sy'n eitha drud fel drama i blant a phobl ifanc ac animeiddio, a heb y gronfa yma mae'n gofyn y cwestiwn p'run a'i byddai darlledwyr yn gallu fforddio comisiynu’r cynnwys yma."
Fe ychwanegodd bod y gronfa'n "rhoi 50% o gyllideb felly mae'n ffynhonnell incwm a grant hynod o werthfawr i gwmnïau."
Dywedodd: "Mae'n mynd i fod yn ergyd drom i S4C, i gwmnïau darlledu, i'r gynulleidfa ac i'r gynulleidfa iau yn benodol os fydd y gronfa yma'n dod i ben".
Ymhlith y cwmnïau o Gymru sydd wedi llwyddo i ennill grantiau mae Boom Plant.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi elwa o'r gronfa gyda thri chynhyrchiad sylweddol.
Dywedodd y cwmni cynhyrchu: "mae’n ddigon posibl na fyddai’r cynyrchiadau yma wedi cael eu comisiynu heb gefnogaeth YACF."
"Mae hi yn sicr yn bryder i gynhyrchwyr fod bygythiad i’r gronfa, yn enwedig yn wyneb y gystadleuaeth ffyrnig am wylwyr ar amryw o blatfformau a sianelau."
'Rhai cynyrchiadau heb weld golau dydd'
Fe ddywedodd llefarydd ar ran S4C: “Mae’r Gronfa YAC y llywodraeth wedi galluogi S4C i fuddsoddi mewn cynyrchiadau na fyddai fel arfer wedi gweld golau dydd, megis: Sali Mali, y ffilm cyd-gynhyrchied Celtaidd Sol, dau broject pobol ifanc Y Gyfrinach a PersonA, a Byd Tadcu.
Ond, pe bai'r gronfa'n cael ei chau mae'r sianel yn hyderus "ni fyddai ei diwedd yn fygythiad andwyol i arlwy plant ehangach S4C."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU: "Mae'r adolygiad gwariant yn parhau.
"Does dim penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â dyfodol ariannu'r Gronfa YAC."