Newyddion S4C

Galw am ateb tymor hir i ddigartrefedd

Newyddion S4C 30/03/2021

Galw am ateb tymor hir i ddigartrefedd

Mae Kirk Lovell, o Gaerdydd, wedi bod yn byw ar y strydoedd am ran fwyaf o'i fywyd. 

Ar ôl dioddef plentyndod caled, fe gychwynnodd Mr Lovell gamddefnyddio cyffuriau, ac o ganlyniad fe gollodd ei gartref. 

Cyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 20202, roedd wedi bod yn cysgu mewn pabell yng nghanol y brif ddinas, ond erbyn hyn, mae wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac mae'n berchen ar allweddi i'w fflat ei hun. 

Mae nifer o elusennau fel Homeless Hope yn galw am newidiadau parhaol i sicrhau helpu pobl oddi ar y strydoedd yng Nghymru. 

Dywedodd Hazel James o Homeless Hope wrth raglen Newyddion S4C:

"Fi'n mynd mas gyda Donna a rhoi cymorth i bobl ar y strydoedd yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

"O'n ni moen rhoi cwtsh i bawb achos oedd pobl yn disgwyl ar y bobl ar y stryd fel 'sa nhw ddim 'na, a oedd hwnna'n poeni fi, poeni fi llawer."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.