
Ceffyl yn rhoi 'ysbrydoliaeth' i fenyw ar ôl strôc

Mae menyw a gafodd ei pharlysu lawr ei hochr chwith yn dilyn strôc, yn dweud mai ei cheffyl sydd i’w ddiolch am ei hadferiad.
Cafodd Leanne Williams, 49 oed o’r Bari strôc ym mis Gorffennaf eleni.
Yn dilyn y strôc roedd yn rhaid i Ms Williams ddefnyddio ffrâm zimmer, dim ond pump i ddeg metr y gallai gerdded oherwydd diffyg cydbwysedd.
Wrth siarad gyda ITV Cymru, dywedodd Ms Williams: "Ma’i wedi bod yn ofnadwy, doedd dim stop arna i o’r blaen. Roeddwn yn gweithio'n llawn amser ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roeddwn i wrth fy modd yn mynd i'r gym.
“Roeddwn hefyd wrth fy modd yn cystadlu gyda fy ngheffyl Rio.
"Roedd y strôc yn gyfrifol am newid popeth. Rydw i eisiau bod y person yna eto."

'Deall pam nad yw rhywbeth yn iawn'
Cyn cael strôc roedd Ms Williams wedi mabwysiadu Rio, ac mae hi’n dweud ei bod yn rhan ‘allweddol’ o’i hadferiad.
"Mae'n deall pam nad yw rhywbeth yn iawn, mae'n anhygoel.
"Ni allaf ddiolch digon iddo, rhoddodd nod i mi. Fe roddodd fy mywyd yn ôl i mi."
Yn ôl y Gymdeithas Strôc Ledled, mae dros hanner y bobl o dan 50 oed yn y Deyrnas sydd wedi goroesi strôc yn dweud nad ydyn nhw wedi gwella’n emosiynol.
Bu farw tad Leanne ddwy flynedd cyn iddi gael strôc, dywedodd bod y ddau ddigwyddiad wedi cael effaith enfawr ar ei hiechyd meddwl.
"Gydag e’ (Rio) wrth fy ymyl, mae e ‘di bod yn wych, yn graig i mi.
"Pan fydda i’n teimlo fy mod i'n mynd i gwympo, mae'n stopio. Mae'n gadael i mi bwyso arno, a hyd yn oed pan dwi'n blino mae'n gwybod.
"Mae pobl yn meddwl eich bod chi'n wallgof, a dim ond ceffyl yw e ond mae'n fwy na cheffyl."
Gôl Ms Williams yn dilyn y strôc oedd gallu marchogaeth ceffyl, a drwy ymarferion gyda Rio a’r ffisiotherapydd mae hi wedi llwyddo.
Dywedodd Katie Chappelle o’r Gymdeithas Strôc: "Bob pum munud, bydd rhywun yn y DU yn cael strôc ac mewn fflach, mae eu bywyd yn cael ei newid.
"Mae effaith gorfforol strôc yn ddifrifol, ond i lawer, mae'r agweddau emosiynol ar ddod i delerau â chael strôc yr un mor arwyddocaol.
"Ond, mae dod o hyd i obaith yn rhan hanfodol o'r broses adfer. Hebddo, gall adferiad ymddangos yn amhosibl."