Sir Benfro i ddyblu’r dreth ar ail gartrefi

Mae cynghorwyr yn Sir Benfro wedi pleidleisio i gynyddu trethi ar ail gartrefi.
Yn dilyn pleidlais ddydd Mercher fe fydd perchnogion ail gartrefi yn y sir nawr yn talu premiwm o 100%, yn lle 50%, ar ben treth cyngor arferol.
Daeth yr argymhelliad gan gabinet y cyngor ar ôl ymgynghoriad ar y mater, yn ôl Golwg360.
Mae cynghorau Gwynedd ac Abertawe eisoes wedi gwneud hyn.
Darllenwch y stori'n llawn yma.