Prif weithredwr Cyngor Môn i ymddeol fis Mawrth nesaf
14/10/2021
Mae Cyngor Ynys Môn wedi dweud fod prif weithredwr yr awdurdod yn bwriadu ymddeol flwyddyn nesaf.
Bydd Annwen Morgan yn rhoi gorau i'w swydd fis Mawrth wedi dwy flynedd a hanner wrth y llyw.
Yn enedigol o Fôn, derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Graddiodd o Brifysgol Bangor cyn mynd ymlaen i astudio Tystysgrif ôl-raddedig mewn Addysg.
Dechreuodd ei gyrfa gyda Chyngor Sir Ynys Môn ym 1983 fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Bodedern a daeth yn Bennaeth yr Adran Gymraeg ym 1994 ac yn Bennaeth ar yr ysgol yn 2007.
Ym mis Ionawr 2016, cafodd ei phenodi fel prif weithredwr cynorthwyol gyda’r Cyngor.