Meddyg fu farw mewn damwain seiclo yn Eryri wedi marw o ‘sawl anaf’

Mae cwest cychwynnol i farwolaeth seiclwr yn Eryri wedi dod i’r casgliad ei fod wedi marw o ganlyniad i “sawl anaf”.
Bu farw Doctor Andrew Fodell, 66 oed o Fiwmares, Ynys Môn ar 25 Medi, medd North Wales Live.
Fe gollodd reolaeth o’i feic wrth seiclo rhwng Pen-y-Pass a Nant Peris, cyn gwrthdaro gyda bws oedd yn teithio i fyny’r pass.
Clywodd y gwrandawiad fod Dr Fowell wedi ei gyhoeddi yn farw yn y fan a’r lle ac y cafodd ei adnabod yn swyddogol i’r heddlu gan ffrind iddo.
Cafodd y cwest ei ohirio tra bod yr ymchwiliad i’w farwolaeth yn parhau.
Darllenwch y stori’n llawn yma.