Newyddion S4C

Buddsoddi i wella awyru mewn lleoliadau addysg

14/10/2021
Ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol i wella awyru mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Mae’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd £3.31 miliwn ar gael i leihau risg lledaeniad Covid-19 a chreu awyrgylchoedd addysg mwy diogel.

Daw'r buddsoddiad wedi i Lywodraeth Cymru gyflawni tro pedol gan gyhoeddi ddechrau mis Medi eu bod yn edrych eto ar y defnydd o beiriannau oson dadleuol mewn sefydliadau addysg ddechrau.

Ni fydd y peiriannau oson bellach yn cael eu cyflwyno mewn sefydliadau addysg yng Nghymru.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud wrth i beiriannau monitro CO2 ddechrau cael eu cyflwyno mewn lleoliadau addysg ar draws Cymru'r wythnos hon.

Mae disgwyl i’r gwaith o gyflwyno’r peiriannau ‘goleuadau traffig’ i awdurdodau lleol ddod i ben erbyn canol mis Tachwedd.

Dywed y llywodraeth eu bod wedi darparu cyngor i sefydliadau addysg ar sut i ddefnyddio’r monitorau CO2 newydd, sy’n cynnwys synwyryddion.

Prif fwriad y synwyryddion yw adnabod lle mae angen gwella awyru.

'Gwella dulliau awyru'

Dywedodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles: "Mae wedi bod yn dda gweld plant yn ôl yn yr ysgol y tymor hwn.

“Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig y mae hi o ran eu lles iddyn nhw allu bod yn yr ysgol gyda'u ffrindiau a'u hathrawon. Ac rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr ystafelloedd dosbarth yn fannau diogel i ddisgyblion ddysgu ynddyn nhw.

“Bydd y buddsoddiad hwn ar gyfer gwella dulliau awyru, ynghyd â chyflwyno peiriannau monitro CO2, yn helpu i gadw cyfraddau trosglwyddo'r feirws yn isel.

“Ond mae'n dal yn bwysig iawn ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i leihau lledaeniad COVID-19 – ac mae hynny'n cynnwys golchi dwylo'n rheolaidd a chadw pellter os gallwn”.

'Croesawu'r tro pedol'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Rydym yn croesawu'r tro pedol ddiweddaraf gan weinidogion Llafur gan ei fod yn hanfodol ein bod yn osgoi aflonyddwch i'w haddysg.

"Mae awyru yn allweddol i daclo coronafeirws ond mae'r arian hwn ond wedi ond ar gael oherwydd mae Llafur nawr wedi gwaredu eu cynllun peiriannau Oson dadleuol a oedd yn cynnwys lledaeniad dadleuol cemegau tocsig mewn dosbarthiadau.

"Nid oedd arbenigwyr a meddygon yn gallu deall pam bod y peiriannau yn derbyn buddsoddiad gan weinidogion Llafur yn lle systemau awyru gwell, ac fe nododd y Ceidwadwyr Cymreig bryderon difrifol ers dechrau'r argymhellion".

'Rhaid ymateb i bryderon'

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS: "Ni allwn ond croesawu’r tro pedol hwn gan Lywodraeth Cymru wrth iddynt dynnu’r plwg o’r diwedd ar y cynllun peiriant osôn dadleuol.

“Nawr, gadewch i ni obeithio y bydd y £3 miliwn - a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer y cynllun gwael hwn - yn mynd tuag at gefnogi ysgolion i wella cylchrediad aer - dull gwell a phrofedig o atal y firws rhag lledaenu yn ein hystafelloedd dosbarth.

“Gyda’r firws yn dal i fodoli yn ein hysgolion, rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i bryderon cynyddol gan rieni, athrawon a disgyblion - gan sicrhau bod y system TTP yn gweithredu’n llawn".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.