Swyddogion y DU a’r UE i gwrdd ar ôl cynnig cwtogi gwaith papur ar fewnforion
Fe fydd swyddogion y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn cwrdd yn Llundain yn ddiweddarach ar ôl i’r UE gynnig cwtogi 80% o’r gwaith papur ar rai nwyddau o Brydain sy’n cael eu mewnforio i Iwerddon.
Mae'r cynigion mewn lle i osgoi “gwrthdaro masnach ôl-Brexit”.
Mae'r UE wedi llunio cynlluniau er mwyn hwyluso’r llif eitemau ar draws Môr Iwerddon, gan gynnwys cigoedd oer, gan obeithio rhoi diwedd i’r hyn a elwir yn “ryfel selsig”.
Fe gafodd y cynigion eu cyhoeddi ddiwrnod ar ôl i Weinidog Brexit y DU, yr Arglwydd Frost fynnu protocol newydd er mwyn “atal ffin galed ar ynys Iwerddon.”
Dywedodd ei swyddog cyfatebol o’r Comisiwn Ewropeaidd, Marcos Sefcovic bod y cynigion yn “bellgyrhaeddol” ac yn “uchelgeisiol”, gyda swyddogion yn mynd i Lundain nos Iau i gychwyn trafodaethau “ar unwaith”, yn ôl Sky News.
Darllenwch y stori’n llawn yma.