Newyddion S4C

Pysgotwyr yn Llŷn ‘wedi colli bywoliaeth’ ar ôl lladrad injans cychod

14/10/2021

Pysgotwyr yn Llŷn ‘wedi colli bywoliaeth’ ar ôl lladrad injans cychod

Mae tri o bysgotwyr ym Mhen Llŷn yn dioddef colledion wedi i chwech o injans cychod gael eu dwyn ym Mhorth Meudwy ger Aberdaron rhwng nos Fawrth a bore Mercher wythnos ddiwethaf.

Gyda’i gilydd mae gwerth rhwng £50,000 a £60,000 o injans wedi eu dwyn, yn ogystal â difrod wedi i’w wneud i’r cychod.

Nid yw’n amlwg sut lwyddodd y lladron i ddwyn y chwe injan, ond mae’r heddlu yn credu iddo ddigwydd rhwng 14:00 dydd Mawrth, 5 Hydref a 08:00 fore dydd Mercher, 6 Hydref. 

Mae’r pysgotwr lleol, Huw Erith ymysg y tri sydd wedi eu heffeithio.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae’r lladrad wedi rhwystro ni rhag pysgota ac ennill bywoliaeth.

“’Da ni’n mynd i golli busnes, byswn i wedi gwerthu rhai crancod a chimychiaid i (fwyty) Tŷ Newydd ar gyfer yr hanner tymor a bysa fo wedi cymryd dipyn o bysgod cregyn genna i.

“Dwi’n mynd i golli huna i gyd.

“Ma hi’n mynd i fod yn anodd dod a chewyll i’r lan, ’da ni’n gorfod cario ein cewyll mewn cychod bach, ma’ hi fatha mynd yn nôl gan mlynedd yma.”

‘Effaith seicolegol’

Roedd y lladron hefyd wedi ceisio dwyn injan y cwch sy’n cludo pobl a nwyddau i Ynys Enlli, ond llwyddwyd i ddwyn offer a difrodi ffenest yn unig.

Dywedodd Colin Evans, Cychwr Ynys Enlli wrth Newyddion S4C: “Mi fues i yn ffodus iawn. Mi oedda’n nhw wedi cychwyn ond mi oedd ‘na rhywbeth ma’n rhaid; methu tynnu’r cwch neu wedi rhedeg allan o amser. Dim ond y fi sydd ar ôl yma efo injan.

“Mae’n ddifrifol dwi’n teimlo. Dwi’n teimlo’n uffernol dros yr hogia’ eraill ‘ma.

“Ma’ nhw wedi colli bywoliaeth dros nos.”

Image
Colin Evans
Colin Evans ar gwch Ynys Enlli

Mae Mr Evans yn pryderu y gallai’r fath ladrad ddigwydd eto a’r perygl y byddai hynny yn ei achosi i’r bobl sy’n cael eu cludo i Ynys Enlli.

“Bysa nhw yn gallu neud difrod cuedig mewn ffordd, mi fues i yn ofalus iawn cyn mi ddechrau cludo.”

Yn dilyn y lladrad, nid yw’n gallu cysgu’r nos os nad ydy o wedi tynnu olwynion y cwch i ffwrdd: “Mi rhaid ni gyd feddwl am ddiogelu’r pethau mae, ’da ni wedi gorfod sbïo mewn ar ddulliau dros nos mewn ffordd.

“Mae o yn cael effaith seicolegol arnom ni gyd. Dydi bywyd ddim cweit mor heulog ag oedd o.Da ni’n poeni bod hyn am ddigwydd eto.”

‘Wedi difetha’n blwyddyn’

Mae’r bobl leol wedi bod yn “ofnadwy o glên” yn nôl Huw Erith ond mae’r broblem yn teimlo’n ddiddiwedd.

“Does gen i ddim injan sbâr, ma’r ddwy oedd gen i wedi cael eu dwyn. ’Da ni wedi goro cael benthyg injan gan rywun gawni i ddeud y gwir.”

Does dim sicrwydd pryd y bydd Huw Erith a’r pysgotwyr eraill yn gallu cael injans newydd, er bod yswiriant ar yr injans sydd wedi eu dwyn, mae prynu injan newydd anoddach oherwydd Brexit a’r pandemig meddai.

“Mae o wedi difetha’n blwyddyn ni go iawn a dwi ddim yn gwybod sut bydd hi at flwyddyn nesaf.

“Dwi’n nabod pobl sydd wedi disgwyl hanner blwyddyn am injan newydd. ’Da ni isho dechrau ’sgota mis Chwefror os bydd hi’n dywydd.

“Mi yda'n ni’n meddwl bod ni’n bell o bob man yma, ond mae’n amlwg fod drygioni yn cyrraedd yma.

“Byswn i yn apelio ar unrhyw un sydd â CCTV ym Mhen Llŷn i ddweud wrth yr heddlu.”

Mae Heddlu’r Gogledd hefyd yn gofyn ar unrhyw un oedd yn yr ardal ac a allai fod â lluniau teledu cylch cyfyng neu luniau dashcam i gysylltu gyda nhw dros y we neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod z146897.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.