Newyddion S4C

Galwadau am hyfforddiant ar gyfer trin gwallt du ac affro yng Nghymru

ITV Cymru 14/10/2021
Sian Jones

Mae perchennog salon sydd yn arbenigo mewn plethu a steiliau gwallt du yn galw ar y diwydiant gwallt i fod yn fwy cynhwysol. 

Dywedodd Sian Jones wrth gyfres GRID ar Hansh, nad yw pobl yn sylweddoli pa mor angenrheidiol yw cael mynediad i salonau sy’n gallu trin steiliau gwallt du.

Daw hyn ar ôl i adolygiad diweddar o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer trin gwallt ddweud y bydd hyfforddiant ar gyfer cymhwyster trin gwallt bellach yn cynnwys gwersi i ddatblygu sgiliau i weithio gyda gwallt du ac affro.

Image
Sian Jones
Sian Jones yn ei salon newydd yng Nghaerdydd.

Mae Sian Jones, 22, o Gaerdydd wedi bod yn trin gwallt ers tair blynedd ac agorodd ei salon cyntaf yng nghanol y ddinas ym mis Medi.

Dywedodd: “Rwy'n credu mai'r prif reswm pam y penderfynais ddechrau'r busnes yw oherwydd bod bwlch yn y farchnad. Nid oes llawer o leoedd yng Nghaerdydd sy'n cynnig gwasanaethau plethu. 

“Rwy'n credu dim ond fy hun a dau arall yng nghanol y ddinas sydd yn cynnig gwasanaethau plethu fel busnes iawn - rwy'n gwybod bod yna ddigon o bobl sy'n ei wneud o'u cartrefi, ond weithiau mae pobl eisiau dod i awyrgylch salon i gael eu gwallt wedi'i wneud.”

“Dydy pobl ddim yn sylweddoli pa mor angenrheidiol ydyn nhw.”

Hyd at fis Medi 2021, nid oedd unrhyw golegau yng Nghymru yn cynnig cyrsiau trin gwallt ble mae addysg ar sut i drin gwallt du affro yn rhan graidd o'r cwricwlwm.

Gydag adolygiad diweddar yr Awdurdod y Diwydiant Gwallt a Harddwch, mae Sian yn edrych ymlaen i weld hynny'n newid.

“Mae’r training angen bod yna… Dwi wedi bod yn chwilio am gyrsiau i neud curly cuts ond does ddim yng Nghaerdydd heblaw os chi ishe mynd i goleg i neud e, ag yn gyntaf bydd angen i chi dysgu torri gwallt caucasian a mynd ar gefn eich hunain rili i ddysgu sut i dorri gwallt affro.

“Mae'n gwneud i chi feddwl, sut mae disgwyl i ni gael salonau i bobl ddu os nad oes neb yn barod i hyfforddi unrhyw un i allu gweithio ynddynt, yn y ddinas?”

Datgelodd astudiaeth 2017 gan Awdurdod y Diwydiant Gwallt a Harddwch fod tua 35,700 o salonau harddwch yn y DU.

Dim ond 302 o’r rheiny oedd yn salonau Affro-Caribïaidd.

Dywedodd Joan Scott, Cadeirydd Awdurdod y Diwydiant Gwallt a Harddwch - HABIA, fod y bwlch yn y farchnad yn bodoli oherwydd “mae hi wedi bod yn gymhwyster ar wahân i wneud gwallt affro-caribïaidd.

“Felly, yn y bôn nid yw'r myfyrwyr yn ei astudio, ac felly nid yw'r bobl sy'n mynd mewn i'r diwydiant wedi'u hyfforddi i ddelio gyda’r math yna o wallt."

Pan ofynnodd ITV Cymru i’r Cadeirydd pa mor hir y bydd yn ei gymryd i weld y newidiadau hyn yn cael eu gweithredu mewn salonau ledled y DU, dywedodd Joan Scott mai “dyma’r cam cyntaf”.

"Rwy’n credu y bydd e’n cymryd o leiaf 12 mis oherwydd mae’r safonau bellach ar waith, ac yn fwy cynhwysol. Nawr, mae'n rhaid i'r sefydliadau ddyfarnu adolygu eu cymwysterau,” ychwanegodd.

“Dylai fod yr holl wasanaethau sylfaenol - torri, lliwio a steilio yn cael eu cynnwys ym mhob cymhwyster.”

‘teimlad mor anhygoel’

Yn ôl Sian, mae’r cam i agor ei salon ei hun sy’n arbenigo mewn trin gwallt du ac affro wedi talu ar ei ganfed.

“Yn y pen draw, fe wnes i jyst gwneud e a fi mor falch wnes i, oherwydd ma’r nifer o clients, y merched ifanc, yr oedolion ... mae gen i gymaint o bobl sy'n dod ata’ i ac sy'n diolch i fi am wneud eu gwallt.

“Mae'n deimlad mor anhygoel i wneud i rywun deimlo mor hyderus ynddo'i hun hefyd.

“Wrth i mi fynd yn hŷn rydw i wrth fy modd gyda fy braids, ac rydw i'n teimlo mor hyderus pan ddwi'n eu gwisgo. Mae’n gwneud fi’n hapus.”

Gallwch wylio'r fideo'n llawn yma.

Lluniau: ITV Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.