Y Frenhines i agor tymor y Chweched Senedd yn swyddogol
Bydd y Senedd yn agor yn swyddogol ar gyfer ei chweched tymor yn ddiweddarach ddydd Iau.
Mae’r digwyddiad yn arfer cael ei gynnal yn fuan ar ôl etholiad, ond oherwydd y pandemig cafodd ei ohirio yn dilyn etholiad mis Mai 2021.
Y Frenhines bydd yn agor y Senedd yn swyddogol ynghyd â Thywysog Cymru a Duges Cernyw.
Yn ystod yr agoriad ym Mae Caerdydd, bydd y Frenhines, y Llywydd Elin Jones a’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn gwneud areithiau yn siambr y Senedd.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiadau gan bobl o bob cwr o Gymru yn fyw ac ar-lein.
Mae rhai o "arwyr" y pandemig hefyd wedi cael gwahoddiad, ar ôl cael eu henwebu gan eu Haelod o'r Senedd leol fel cydnabyddiaeth o'u cyfranogiad i'w cymuned.
Ymhlith y rhain mae'r rhedwr marathon Ian Turner, gwirfoddolwyr o Aberconwy a Alison Round, fu'n arwain grŵp gwnïo yn y Fflint i greu mygydau i weithwyr y GIG.
Dywedodd datganiad gan Senedd Cymru fod y perfformiadau sy’n rhan o’r digwyddiad yn “tynnu sylw at bwysigrwydd lleisiau pobl wrth lunio democratiaeth yng Nghymru” gan “gynrychioli gobeithion a dyheadau’r Chweched Senedd.”
Byddant yn cynnwys cerdd gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, cân gan sefydliad sy’n codi proffil lleisiau Du yng Nghymru, Tân Cerdd a pherfformiad gan gôr Opera Ieuenctid WNO am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Bydd teulu a gyrhaeddodd Cymru yn ddiweddar ar ôl ffoi o'r Taliban yn Afghanistan hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.
Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS: “Rydym ni i gyd wedi wynebu 18 mis na welwyd eu tebyg o’r blaen.
“Gyda’n gilydd rydym yn dechrau sesiwn y Senedd newydd hon â gobaith ac agwedd benderfynol.
“Heddiw, yn y digwyddiad i nodi Agoriad Swyddogol ein Senedd, rydym ni’n dathlu nid yn unig y Senedd ond y cymunedau amrywiol ledled Cymru y mae eu lleisiau’n cael eu cynrychioli oddi mewn i’r waliau hyn,” ychwanegodd.
Bydd rhaglen fyw o’r agoriad swyddogol yn cael ei darlledu ar S4C am 11:10.