UE i wrthod gofynion y DU ar gael gwared â phrotocol Gogledd Iwerddon

Mae disgwyl i gynigion yr Undeb Ewropeaidd ar addasu protocol Gogledd Iwerddon gwtogi ar fiwrocratiaeth masnachu rhwng y DU a Gogledd Iwerddon pan fydd y cynnig yn cael ei wneud yn ffurfiol yn ddiweddarach dydd Mawrth.
Ond y gred yw na fydd yn cyrraedd gofynion y Deyrnas Unedig ar gael gwared â'r protocol yn gyfan gwbl, yn ôl y Belfast Telegraph.
Daw hyn ar ôl i'r Gweinidog Brexit, Yr Arglwydd Frost, ddweud mewn araith ym Mhortiwgal ddydd Mawrth fod angen cyflwyno protocol o'r newydd er mwyn gallu symud y berthynas yn ei blaen.
Bydd is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, yn cyflwyno cyfres o fesurau am 17:30 ddydd Mercher, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r gwaith papur ar gyfer tollau a symud meddyginiaethau a bwyd amaethyddol rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill Prydain.
Y gobaith yw y bydd cynllun yr UE yn lleihau maint y biwrocratiaeth sy'n ofynnol o dan y protocol presennol.
Ar ben hynny, mae disgwyl i Mr Sefcovic addo cynnig mwy o ddyletswyddau ymgynghorol i wleidyddion yng Ngogledd Iwerddon ar sut mae trefniadau masnachu dadleuol yn cael eu gweithredu.
Darllenwch y stori'n llawn yma.