‘Fy ngŵr am golli ei goesau oherwydd gwallau gofal fasgiwlar y gogledd’

‘Fy ngŵr am golli ei goesau oherwydd gwallau gofal fasgiwlar y gogledd’

Newyddion S4C 12/10/2021

Mae dynes o Wynedd yn dweud bod ei gŵr yn wynebu colli ei goesau o ganlyniad i ad-drefnu "gwasanaethau gwallus" gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Cafodd gwasanaethau fasgiwlar y bwrdd eu hail-drefnu a'u canoli yn Ysbyty Glan Clwyd ym mis Ebrill 2019. Ond roedd yn benderfyniad dadleuol, ac fe wnaeth sawl un ymddiswyddo oherwydd pryder am y cynlluniau.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod nhw wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel ond nad oes digon o alw yn yr ardal i gynnal gofal arbenigol yn nhri o brif ysbytai'r gogledd.

Image
Esyllt Calley
Mae Esyllt yn disgwyl ei hail blentyn gyda Pete yn y flwyddyn newydd.

Mae Esyllt Calley o Lanllyfni yn mynnu bod tynnu gwasanaethai o'i hysbyty lleol ym Mangor wedi achosi niwed i gleifion fel ei gŵr.

Ar hyn o bryd, mae Pete Calley, sydd yn 51 oed, yn Ysbyty Gwynedd ac yn aros am lawdriniaeth i dorri ei goes i ffwrdd. Mae eisoes wedi colli un goes oherwydd cymhlethdodau yn deillio o ddiabetes. 

Mae Mr Calley yn byw gyda diabetes ers sawl mlynedd bellach. 

Chwe blynedd yn ôl, bu'n rhaid iddo gael tynnu dau o fysedd ei droed yn Ysbyty Glan Clwyd.

Yn ôl Mrs Calley, doedd y llawdriniaeth honno ddim yn llwyddiannus gan fod gwaeledd wedi ei adael yn y droed, gan arwain at lawdriniaeth bellach a chyfnod hir o adferiad.

Bu’n rhaid i Mr Calley ddychwelyd i’r ysbyty 18 mis yn ôl, ac hynny er mwyn torri ei goes i ffwrdd.

Yn ôl ei wraig, bu’n rhaid iddo gael tair llawdriniaeth o fewn wythnos oherwydd y camgymeriadau a gafodd eu gwneud.

Flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, ac mae'n wynebu llawdriniaeth arall i dorri ei ail goes ymaith.

Image
pete calley
Mae Pete Calley wedi byw gyda diabetes ers 22 o flynyddoedd yn ôl ei wraig, Esyllt. (Llun cyfrannwr)

Yn ôl Mrs Calley, mae ei gŵr yn byw mewn ofn ar ôl yr holl lawdriniaethau yng Nghlan Clwyd, lle mae gwasanaethau fasgiwlar y gogledd bellach wedi eu canoli – ac mae’n gwrthod dychwelyd yno am driniaeth.

‘Fy ngŵr wedi newid’

"Mae o wedi ei effeithio gymaint. Mae dweud yr enw 'Glan Clwyd' yn ddigon i'w yrru o i panic attack. Dw'i n teimlo 'mod i wedi colli'r dyn nes i briodi. Dwi'n caru 'ngŵr gymaint, ond mae o wedi newid."

Bellach, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi talu i'w anfon i ysbyty yn Lerpwl am driniaeth.

Er ei bod hi'n falch y bydd e'n derbyn y driniaeth y mae ei angen, mae'n rhwystredig nad yw'r driniaeth honno ar gael yn Ysbyty Gwynedd.

"Fysa fo ddim yn rhatach i wneud y llawdriniaeth ym Mangor, yn yr ardal mae o'n byw? Yn lle gyrru fo i rywle arall a rhoi y broblem ar fwrdd iechyd arall? Mae'n siŵr fod y gost mynd i fod yn uchel iawn. Dw'i ddim isho meddwl be ydy'r gost. Mae'n ypsetio fi gormod."

Mae Esyllt yn disgwyl ail blentyn gyda Pete yn y flwyddyn newydd. Dywedodd ei bod yn bendant bod ail-strwythuro'r gwasanaeth fasgiwlar wedi effeithio ar iechyd ei gŵr.

"Dwi'n gwbod y bysa Pete yn dal hefo'i goes heblaw am Glan Clwyd. A bysa fo bendant ddim yn double amputee."

"Beth 'da ni'n ffeindio'n od yw o fewn dwy flynedd o gael yr uned fasgiwlar yng Nglan Clwyd, mae'n mynd i fod yn double amputee. Chwe blynedd dan ofal Professor Dean Williams [yn Ysbyty Gwynedd] a gollodd o ddim byd mwy na dau fodyn."

Image
yr athro dean
Yr Athro Dean Williams. 

Ymddiswyddodd yr Athro Dean Williams o'i rôl fel cyfarwyddwr gwasanaeth fasgiwlar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn haf 2019. Yn gynharach eleni, cafodd achos diswyddiad deongliadol ganddo yn erbyn y bwrdd iechyd ei setlo tu fas i'r llys.

Dywedodd wrth Newyddion S4C iddo helpu datblygu adran arbed coesau a breichiau yn Ysbyty Gwynedd oedd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, ac iddo gael sicrwydd gan swyddogion o fewn y bwrdd iechyd y byddai gwasanaethau pwysig yn parhau ym Mangor er gwaetha'r cynlluniau canoli.

"Pan fwrwyd ati gyda'r canoli, cafodd gwasanaethau brys a llawdriniaethau mawr fasgiwlar eu cymryd o Fangor" meddai.

"Gofynnais am adolygiad wedi'r ad-drefnu, gan fod problemau yn cael eu codi gennyf i a nifer o'm cydweithwyr - ddigwyddodd hynny ddim.

"Roedd gweld gwasanaeth cystal yn cael ei ddymchwel a'r canlyniadau oedd wedi eu darogan yn cael eu gwireddu yn anodd ac mae'n dal i fod yn anodd."

Image
bethan
Bethan Russell-Williams. 

Roedd Bethan Russell-Williams yn aelod annibynnol o fwrdd gweithredol Betsi Cadwaladr tan iddi ymddiswyddo oherwydd y cynlluniau ad-drefnu.

Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C nad yw hi’n difaru ei phenderfyniad.

‘Canlyniadau i gleifion yn llawer salach’

"Mae bron i ddwy flynedd ers i fi ymddiswyddo. Mae'n gas gen i ddweud ac mae'n dorcalonnus i ddweud bod yr hyn nes i ragweld ar y pryd yn dod yn wir erbyn hyn.

Mae'r canlyniadau i gleifion yn llawer salach nag oedden nhw pan oedd 'na wasanaeth yn Ysbyty Gwynedd. 

"Mae mwy o gleifion yn cael lower limb amputation a mae mwy o gleifion yn marw ar ôl cael major lower limb amputation.

"Ym mis Mawrth eleni, cafodd mortality action plan ei roi mewn lle. Mae'n amlwg felly bod yna bryder am nifer y cleifion fasgiwlar sydd yn marw yn ardal y bwrdd iechyd."

Wrth ymateb i'r honiadau, dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod wedi buddsoddi £2.3m mewn cyfarpar ar gyfer y gwasanaeth, ac mae recriwtio staff profiadol yn parhau'n flaenoriaeth. 

"Gwyddwn fod y canlyniadau gorau i gleifion yn cael eu cyflawni mewn unedau fasgwlaidd arbenigol, gan weithio’n agos gyda thimau lleol, gyda thimau fasgwlaidd pwrpasol ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

'Hyd yn oed yn ardal y Bwrdd Iechyd mawr hwn, nid oes gennym y nifer uchel o achosion fasgwlaidd cymhleth i gadw sgiliau ac arbenigedd timau i fyny ym mhob un o’r tri ysbyty." 

Ychwanegodd eu bod yn canolbwyntio ar wella gofal yn y gymuned a'u bod yn gweithio i atal cyflyrau rhag datblygu. 

Roedd adolygiad diweddar o'r gwasanaeth gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn nodi fod trefniadau ar alwad "cadarn" yno.  

Mae'r bwrdd iechyd yn aros am ragor o adborth gan y Coleg, meddai Dr Lyons, sy'n seiliedig ar adolygiad annibynnol. 

Fe ddymunodd Dr Lyons yn dda i Mr Calley, gan ychwanegu fod y bwrdd mewn cyswllt gydag ef.