Newyddion S4C

Yr archarwr Superman i gyhoeddi ei fod yn ddeurywiol

The Independent 12/10/2021
Superman

Bydd yr archarwr ffuglennol, Superman, yn cyhoeddi ei fod yn ddeurywiol yn rhifyn nesaf y comig ym mis Tachwedd.

Dyma’r ail archarwr gan gwmni comig DC i gyhoeddi ei fod yn rhan o’r gymuned LHDT+ yn y misoedd diwethaf, ar ôl Robin o gomig Batman.

Yn ôl The Independent, mae ffans mwyaf y comig wedi dweud bod y newyddion yn “bwysig iawn” i fyd y comig.

Dywedodd awdur y comig, Tom Taylor, y gall “mwy o bobl nawr weld eu hunain yn yr archarwyr mwyaf pwerus mewn comics.”

Darllenwch ragor yma.

Llun: DC Comics drwy Flickr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.