Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhontardawe
11/10/2021
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 87 oed farw mewn gwrthdrawiad ym Mhontardawe ddydd Llun.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Hopkin yn y dref oddeutu 14:30. Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd bryd hynny oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau dashcam o'r digwyddiad i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 357217.