Ymateb cymysg wrth gyflwyno pàs Covid-19 yng Nghymru

Ymateb cymysg wrth gyflwyno pàs Covid-19 yng Nghymru
Mae ymateb cymysg wrth i'r pàs Covid-19 gael ei gyflwyno yng Nghymru ddydd Llun.
Mae'r gofyniad i bobl gael pàs Covid-19 er mwyn mynychu digwyddiadau torfol mawr yng Nghymru wedi bod yn weithredol ers 07:00 fore Llun.
Mae'r pàs yn orfodol i unrhyw un dros 18 oed sydd am fynd i glybiau nos, digwyddiad lle mae angen sefyll tu fewn ar gyfer mwy na 500 o bobl, lle mae angen sefyll tu allan ar gyfer mwy na 4,000 o bobl, ac unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnwys dros 10,000 o bobl.
Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau chwaraeon hefyd.
'Mwy parod i lawrlwytho'
Mae Mabon Dafydd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, yn meddwl bod y pàs yn arf gwerthfawr wrth ymateb i Covid-19.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Dwi'n credu bod e yn gweithio, ydi.
"Yn sicr mae myfyrwyr yn fwy parod i lawrlwytho'r ap ac i ddangos ar y drysau bod nhw wedi cael eu brechu ddwywaith neu wrth gwrs bod nhw'n fwy na parod i gymryd LFT cyn dod yma.
"Dyw'r busnes ddim wedi cael ei amharu yn ormodol o gwbl o ran y niferoedd sydd yn dod i'r clwb.
"A fi'n credu bod e'n sicr yn bolisi sydd yn gweithio o ran diogelwch".
'Amseru yn broblematig'
Ond, nid dyma'r amser iawn i gyflwyno mesur o'r fath yn ôl eraill.
Dywedodd Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach wrth raglen Newyddion S4C: "Mae'r amseru yn broblematig.
"Dyma gyfnod prysura'r flwyddyn i lot o lefydd tebyg i 'Clwb'.
"Mae'r myfyrwyr newydd gyrraedd nôl, ti'n sôn hefyd fanna lot o fyfyrwyr sydd yn dod o du allan i Gymru sydd ella ddim yn ymwybodol bod angen y pas arnyn nhw.
"Mae 'na ddigon o waith efo ni neud ar hyn o bryd o ran y rheoliadau Covid beth bynnag ac mae hwn yn ychwanegu elfen arall o fiwrocratiaeth ar ben hynny".
Fe fydd modd derbyn pàs Covid-19 y GIG os ydych yn 16 oed neu’n hŷn ac:
- Eich bod wedi cael eich brechu yng Nghymru neu yn Lloegr.
- Nad ydych wedi eich brechu ond am ddefnyddio'r pàs i ddangos canlyniad prawf llif unffordd negyddol.
Bydd yn drosedd i arddangos pàs Covid-19 ffug yn ogystal â phrawf unffordd ffug o ddydd Llun hefyd. Gallai unrhyw un sydd yn defnyddio prawf ffug wynebu dirwy o £60. Fe fydd unrhyw ddirwy yn gostwng i £30 os bydd yn cael ei thalu o fewn 30 diwrnod.
Cafodd y bleidlais dros basys Covid-19 gorfodol ei hennill o drwch blewyn gan y llywodraeth yn y Senedd ddydd Iau, a hynny o 28-27 pleidlais.