Teyrnged i dad fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghorris
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghorris, Gwynedd ddydd Sul.
Cafodd yr heddlu eu galw ychydig cyn 12:20 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad oedd yn cynnwys dau feic modur ger Canolfan Grefft Corris.
Bu farw Michael Peel, 46, o Lanrwst, yn y fan a’r lle.
Mae teulu Mr Peel wedi rhannu llun o honno gyda’i ferch chwech oed ynghyd â theyrnged iddo:
“Roedd Michael yn cael ei garu yn fawr iawn gan ei wraig Claire a’u merch Imogine.
“Yn wreiddiol o Ogledd Iwerddon, roedd Michael bellach yn byw gyda'i deulu yn Llanrwst.
“Gweithiodd fel Rheolwr Cynnyrch TG ac roedd ganddo gariad at ei feic modur, darllen, ffilmiau a diddordeb diweddar mewn DIY".
Mae’r teulu hefyd wedi diolch i’r gwasanaethau brys ac aelodau’r cyhoedd a gynorthwyodd Mr Peel yn y “ddamwain drasig hon".
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Z149033.