Cwmni teganau Lego i gael gwared ar ystrydebau rhywedd

Mae cwmni Lego wedi cyhoeddi y bydd yn gweithio er mwyn cael gwared ar ystrydebau rhyw yn eu teganau.
Yn dilyn holiadur byd-eang gan y cwmni, daeth i’r amlwg fod 71% o’r bechgyn a holwyd yn pryderu y byddai “pobl yn gwneud hwyl am eu pennau” petai nhw’n chwarae â “theganau merched”.
Yn ôl The Guardian, dangosodd yr arolwg bod rhieni yn annog bechgyn i ddilyn gweithgareddau chwaraeon a STEM, tra bod merched yn fwy tebygol o gael eu hannog i wneud gweithgareddau fel pobi a dawnsio.
Dywedodd Julia Goldin, prif swyddog cynhyrchu a marchnata Lego Group, “Rydym yn gweithio’n galed i wneud Lego yn fwy cynhwysol.”
Darllenwch y stori yma.
Llun: Brick101 drwy Flickr