Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

11/10/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma brif straeon bore dydd Llun 11 Hydref.

Cyflwyno pasys Covid-19 gorfodol i ddigwyddiadau mawr yng Nghymru

Fe fydd angen i bobl gael pàs Covid-19 er mwyn mynychu digwyddiadau torfol yng Nghymru o 07:00 ddydd Llun ymlaen. Bydd y pàs yn orfodol i unrhyw un dros 18 oed sydd am fynd i glybiau nos, digwyddiad lle mae angen sefyll tu fewn ar gyfer mwy na 500 o bobl, lle mae angen sefyll tu allan ar gyfer mwy na 4,000 o bobl, ac unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnwys dros 10,000 o bobl.

Heddlu’r Met yn ‘gollwng ymchwiliad i gyhuddiadau o gam-drin rhyw’ yn erbyn Tywysog Andrew

Mae adroddiadau’n awgrymu bod Heddlu’r Met wedi "gollwng ymchwiliad i gyhuddiadau o gam-drin rhyw" yn erbyn Tywysog Andrew. Yn ôl The Independent, mae Heddlu’r Met wedi siarad gyda’r cyhuddwr Virgina Giuffre, sydd wedi dweud eu bod wedi penderfynu peidio gweithredu ymhellach ar ei honiadau.

Cwpan y Byd 2022: Cymru’n paratoi i herio Estonia

Bydd Cymru yn parhau gyda’i hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022 nos Lun. Fe fydd y crysau cochion yn mynd benben ag Estonia, gyda’r gic gyntaf yn Tallinn am 19:45. Yn dilyn gêm gyfartal nos Wener yn erbyn y Weriniaeth Tsiec, mae gobeithion y tîm yn uchel wrth iddynt frwydro i sicrhau’r ail safle yn eu grŵp. Dywedodd Aaron Ramsey, a fydd yn gapten unwaith eto ar y tîm nos Lun mai “Cwpan y byd yw’r targed,” tra bod Gareth Bale yn gwella o anaf.

Cannoedd o honiadau am blismyn yn camymddwyn yn rhywiol yn y DU

 

Mae cannoedd o honiadau am blismyn yn camymddwyn yn rhywiol wedi eu gwneud yn y Deyrnas Unedig rhwng 2016 a 2020. Mewn cais rhyddid gwybodaeth, mae data gan 31 o luoedd yn dangos bod oleiaf 750 o gwynion wedi eu gwneud yn ystod y pum mlynedd. Yn ôl Sky News, roedd rhan fwyaf yr honiadau yn erbyn dynion a nifer yn gwynion hanesyddol.

Pryder y gallai'r grefft o blygu perthi ddiflannu o’r tir

Gyda phrinder pobl ifanc yn ymddiddori yn y maes, mae pryder y gallai'r grefft o blygu perthi ddiflannu o’r tir. I geisio rhoi hwb i’r traddodiad hynafol hwn yng Nghymru, fe gafodd cystadleuaeth Plygu Perthi Dyffryn Tywi ei chynnal am y tro cyntaf y penwythnos hwn. Mae technegau plygu perthi yn amrywio o sir i sir, ond yr un alwad ym mhob ardal – mae angen mwy o bobl ifanc ymddiddori yn y maes a chynnal traddodiad.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.